Aberystwyth - y lle mwyaf diogel i astudio
Adeilad Llandinam, Campws Penglais
22 Gorffennaf 2013
Mae Prifysgol Aberystwyth wedi cael ei raddio fel y Brifysgol fwyaf diogel yng Nghymru a Lloegr i astudio yn dilyn adroddiad a gyhoeddwyd heddiw (Dydd Llun, 22 Gorffennaf) gan y Complete University Guide.
Wedi’i lunio o ddata swyddogol gan yr heddlu, mae’r safle yn rhoi’r darlun cliriaf posibl o'r cyfraddau troseddu ar gyfer bron i 120 o brifysgolion yng Nghymru a Lloegr.
Mae gan Aberystwyth y nifer isaf o droseddau myfyrwyr o fewn tair milltir o’r campws.
Mae’r adroddiad yn edrych ar y prifysgolion mwyaf diogel a’r rhai sydd a mwyaf o risg yng Nghymru a Lloegr ar gyfer troseddau myfyrwyr, ac yn ymuno Aberystwyth ar frig y rhestr gyda'r cyfraddau troseddu isaf yw Durham (2il) a Chaer-wynt (3ydd).
Dywedodd Dirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth ar gyfer Ymchwil, Menter ac Ymgysylltu, Martin Jones, "Yn ddiweddar cynhaliwyd ein Hwythnos Graddio yn Aberystwyth a phan ofynnon ni i raddedigion pam eu bod wedi penderfynu dod yma, dywedodd y mwyafrif mai oherwydd y lleoliad ac am ei fod yn le diogel a chyfeillgar i astudio.
"Mae bod yn agos at y môr yn atyniad amlwg, ond mae bod o fewn tafliad carreg i gefn gwlad hefyd yn atyniad mawr i lawer o'n myfyrwyr, yn enwedig i'r rhai sy'n dod o ddinasoedd mawr fel Birmingham a Manceinion.
"Mae gan Aberystwyth ysbryd cymunedol gwych ac mae'r myfyrwyr yn teimlo'n rhan fawr o'r gymuned honno yn ystod eu hamser yma.
“Mae hyn yn cydnabod yr amgylchedd gwych sydd gennym yn Aberystwyth, sy'n hanfodol ar gyfer boddhad myfyrwyr ac yn ein cysylltiadau busnes a chymunedol."
Amcangyfrifir bod un rhan o dair o fyfyrwyr yn ddioddefwyr o droseddau, yn bennaf dwyn a byrgleriaeth, ac mae tua 20 y cant o ladradau myfyrwyr yn digwydd yn chwe wythnos gyntaf y flwyddyn academaidd.
Nid oes data swyddogol ar gyfer troseddau sy'n effeithio myfyrwyr ar gael, felly mae’r Complete University Guide wedi dewis tri throsedd sydd y mwyaf perthnasol i fyfyrwyr, sef byrgleriaeth, lladrad a throseddau treisgar.
Gellir cael mwy o wybodaeth am yr adroddiad hwn ar wefan The Complete University Guide: http://www.thecompleteuniversityguide.co.uk/