Llyfr y Flwyddyn 2013
Yr Athro Richard Marggraf Turley, Athro Ymgysylltu â Dychymyg y Cyhoedd Prifysgol Aberystwyth
16 Gorffennaf 2013
Yr Athro Richard Marggraf Turley, Athro Ymgysylltu â Dychymyg y Cyhoedd Prifysgol Aberystwyth, fydd un o dri beirniad panel Gwobr SaesnegWales Book of the Year eleni.
Cyflwynir y Gwobrau ar ddydd Iau 18 Gorffennaf yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru i’r gwaith gorau sy'n cwmpasu tri chategori: Barddoniaeth, Ffuglen a Ffeithiol Creadigol.
Mae Richard yn athro Rhamantiaeth yn y Brifysgol ac yn fardd a enillodd y wobr "Keats-Shelley" yn 2007 am farddoniaeth, a "Dewis y Bobl" Llyfr y Flwyddyn 2010 ar gyfer ei drydydd casgliad, Wan Hu's Flying Chair (Salt, 2009).
Dywedodd, "Mae hi’n fraint bod yn un o feirniaid gwobr lenyddol mwyaf mawreddog Cymru. Mae'r ysgrifennu wedi bod yn wych - yn bryfoclyd, hyderus ac yn barod i gymryd risg. Nid yw’r byd llenyddol yng Nghymru erioed wedi teimlo'n fwy cyffrous."
Un o’r awduron ar restr fer y llyfrau Saesneg yw Dr Matthew Francis o'r Adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol, hefyd o Brifysgol Aberystwyth, gyda'i gasgliad o straeon byrion o'r enw Singing a Man to Death.
Mae’r Athro Meic Stephens, a fu'n astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth, mewn sefyllfa unigryw gan ei fod ar y rhestr fer yn y categori Cymraeg gyda'i hunangofiant Cofnodion, ac yn ycategori Saesneg gyda'i gyfrol ddiweddaraf, Welsh Lives.
Awdur arall ar y rhestr fer barddoniaeth Saesneg yw Rhian Edwards a oedd Awdur Preswyl cyntaf Canolfan Celfyddydau Aberystwyth y Brifysgol eleni.
Cafodd Elin ap Hywel, un o feirniaid y llyfrau Cymraeg, ei haddysg yn Aberystwyth hefyd ac roedd yn un o'r Gymrodorion Ysgrifennu Cymdeithas Lenyddol Frenhinol y Brifysgol yn 2012/2013.
Yn ogystal ag Elin, y beirniaid eraill eleni ar y panel Cymraeg yw’r awdur a'r colofnydd cylchgrawn Golwg rheolaidd, Alun Gibbard, a'r DJ Radio Cymru boblogaidd, Bethan Elfyn.
Beirniaid eraill y llyfrau Saesneg yw’r awdur ac ymgynghorydd busnes, Ffion Hague, a’r nofelydd ffantasi poblogaidd Jasper Fforde.
Bydd enillydd pob categori yn derbyn gwobr o £2,000, a chyflwynir gwobr ychwanegol o £6,000 i brif enillydd y wobr yn y ddwy iaith. http://www.literaturewales.org/llyfr-y-flwyddyn/
Byddwch yn rhan o'r digwyddiad gan ddefnyddio’r hashnod Trydar #WBOTY13. Gallwch hefyd ddilyn Richard Marggraf Turley ar Trydar ar @RmarggrafTurley