Darlene

A oedd gynnych unrhyw bryderon am astudio ar-lein?

'Na - dim pryderon - ond yn llawn cyffro oherwydd mod i’n gallu gwneud rhywbeth hyd yn oed yn ystod Covid!'

Beth wnaeth eich helpu i wneud y penderfyniad?

"Fe wnaeth fy nhiwtor fy annog i - er nad oes gen i brofiad na chwaith unrhyw gefndir - fe wnaeth hi fy annog i roi cynnig arni - a dal ati i drio a dysgu.  Roedd yn gyngor da :) '

Sut oeddech chi'n teimlo am gyflymder y dysgu?

'Roedd cyflymder y dysgu'n iawn - nid oedd fy ngwaith bob amser yn cyd-fynd ag ef - ond roedd yn wych ei gael yno fel her a chyfle i dreulio peth amser ar ddatblygu sgiliau a phleserau newydd.' 

A roddodd e unrhyw syniadau neu sgiliau newydd i chi nad oeddech wedi'u defnyddio o'r blaen? 

'Yn bendant, mae fy sgiliau arlunio a phaentio dyfrlliw wedi tyfu - gan nad oedd gen i ddim byd o'r blaen a nawr gallaf wneud lluniau y gall pobl eraill eu hadnabod!  Ac yn y pen draw mi fydda i'n gwella o ran y gweddill - y lliw, y gwerth, y strwythur ac ati.'

Sut oeddech chi'n teimlo am y lefel a'r tasgau o fewn yr unedau dysgu?  

'Byddai'n ddefnyddiol cael ychydig o gyflwyniadau fideos sylfaenol iawn ar gyfer yr holl sgiliau hanfodol sy'n cael eu 'rhagdybio' ar gyfer pob cwrs.  Dwi'n gwybod y bydd y sgiliau hyn gan y rhan fwyaf o bobl ond nid pawb - felly banc bach o hanfodion... byddai'n ddefnyddiol iawn dwi'n meddwl." 

Beth oedd eich profiad o gefnogaeth y tiwtor? 

"Roedd hi'n wych - bob amser yn hapus i helpu a rhoi cyngor, yn annog ac yn barod â’i hadborth.  Tiwtor gwych!'

Mewn un frawddeg crynhowch eich profiad… 

'Rwyf wedi bod wrth fy modd yn dysgu am arlunio a phaentio a gallu gweithio ar fy nghyflymder fy hun, ailedrych ar y pethau oedd angen mwy o fy amser neu’r pethau y bu raid i mi ruthro wrth eu gwneud – ac yn hapus iawn i ddatblygu sgiliau creadigol newydd.’