Dee - Dyfrlliw

A oedd gynnych unrhyw bryderon am astudio ar-lein?

"Fel myfyriwr hŷn dwi'n meddwl ei bod hi'n normal cael rhai pryderon am sut fyddwch chi'n ymdopi â thechnoleg, ond roedd yn hwyl!"

Sut oeddech chi'n teimlo am gyflymder y dysgu?

" Perffaith oherwydd gallwch weithio ar eich cyflymder eich hun. "

 A roddodd e unrhyw syniadau newydd i chi?

"Yn hollol!  Mae wedi newid fy marn yn llwyr am ddyfrlliwiau ac wedi fy helpu i ddeall arferion cyfoes"

Sut oeddech chi'n teimlo am y lefel a'r tasgau o fewn yr unedau dysgu? 

"Roedd y ffaith y gallech chi ei deilwra i’r hyn roeddech chi ei eisiau yn help mawr, roedd yn teimlo'n heriol ond yn bosibl."

Beth oedd eich profiad o gefnogaeth y tiwtor?

Ardderchog!  Roedd Alison yn annog, yn rhoi gwybodaeth ac yn cefnogi"

Mewn un frawddeg crynhowch eich profiad

"Gwnaeth y cyrsiau dysgu gydol oes wahaniaeth enfawr i fy ymarfer celf; os ydych chi'n artist newydd neu'n brofiadol fe gewch fudd a mwynhad ohonynt gan eu bod wedi'u teilwra i gael y gorau ohonoch!”