Howard

A oedd gynnych unrhyw bryderon am astudio ar-lein?

Nid yn benodol, er y byddai dysgu wyneb yn wyneb wedi bod yn well, ond roedd y cwrs wedi'i strwythuro a'i ddysgu yn y fath fodd ag i dawelu unrhyw bryderon cychwynnol a oedd gennyf yn gyflym.

Beth wnaeth eich helpu i wneud y penderfyniad?

Fy awydd i ddarganfod a oedd gennyf unrhyw allu arlunio o gwbl.

Sut oeddech chi'n teimlo am gyflymder y dysgu?

Roedd yn iawn.

A roddodd e unrhyw syniadau neu sgiliau newydd i chi nad oeddech wedi'u defnyddio o'r blaen?

Yn bendant.  Dysgais lawer am naws, cyfansoddiad a datblygiad lliw.

Sut oeddech chi'n teimlo am y lefel a'r tasgau o fewn yr unedau dysgu?  

Heb fod yn feichus, roedd y graddiant cynyddol o anhawster yn fy annog i edrych ar wahanol ddulliau a datblygu sgiliau newydd ar gyflymder addas i mi.

Beth oedd eich profiad o gefnogaeth y tiwtor? 

Gwnaeth fy nhiwtor bob ymdrech i leihau'r cyfyngiadau sy'n gynhenid mewn addysgu ar-lein, ac fe gerddodd yr ail filltir ar fwy nag un achlysur i gynnig arweiniad i mi a gwneud awgrymiadau.

Mewn un frawddeg crynhowch eich profiad

Gwerth chweil ac yn rhoi boddhad mawr .