Dysgu o Bell mewn Celf

Mae dysgu o bell, neu ddysgu ar-lein wrth eich pwysau, yn gweddu i'r rhai sy'n dymuno astudio gartref neu wrth symud o le i le.  Mae cymaint o ddeunydd ar gael ar y we ac mewn llyfrgelloedd y gellir ei ddefnyddio i'ch helpu i astudio mewn ffordd nad yw’n draddodiadol. Rydym wedi canfod bod myfyrwyr wir yn mwynhau'r dull dysgu newydd hwn gyda chymorth tiwtoriaid ac adborth rheolaidd.  Mae gofyn i chi weithio'n annibynnol, sy'n sgil trosglwyddadwy arall.  Byddwch yn cael cefnogaeth ac arweiniad rheolaidd gan eich tiwtor; dydych chi ddim ar eich pen eich hun!

A oes rhaid i mi weithio ar gyflymder penodol?

Mae’r unedau gwaith yn cael eu cyflwyno fesul cam i roi cyfle i chi gasglu'r wybodaeth ar gyfer eich asesiad terfynol.  Wrth gymharu fersiwn 'wyneb yn wyneb' y modiwl â’r fersiwn dysgu o bell, dywedodd ein harholwr allanol ei fod yn teimlo bod yr hyn yr oedd y myfyrwyr yn ei ddysgu yn fwy dwfn.  Rydym hefyd yn rhoi adborth yn y cyfamser, fel y gallwch ennill marciau uwch ar gyfer eich aseiniad terfynol.

Cefnogaeth ar gyfer eich dysgu 

Mae angen ymchwilio ar y rhyngrwyd ar gyfer eich dysgu; ond i arbed gwastraffu amser yn ddiangen, rydym yn argymell yn gryf eich bod yn cadw geiriadur bach o gelf ac artistiaid wrth law.  Cadwch nodiadau 'post-it' wrth law i’w hatodi i dudalennau neu ddogfennau o ddyfyniadau gan ychwanegu rhifau tudalennau.  Mae hyn yn rhoi modd ichi ddod yn ôl i'w cyfeirnodi yn nes ymlaen.

Llwybrau dysgu

Rwy'n cyffelybu dysgu am hanes celf i deithio ar y trên tanddaearol yn Llundain.  Mae rhai teithiau yn galw mewn pump man ac yn cymryd 20 munud, ond petaech chi’n adnabod y ffordd rhwng y llwybrau a'r strydoedd, gallech gerdded i’r un man mewn 5 munud yn lle hynny.  Mae dysgu a cherdded y llwybrau hyn yn cynyddu eich gwybodaeth ehangach o hanes celf.  Byddwch yn barod serch hynny i gael eich arwain ar gyfeiliorn nes i chi ddysgu'r derminoleg a'r genres celf. 

Sut mae'n cael ei gyflwyno?

Os ydych chi'n dilyn cwrs dysgu wrth eich pwysau, bydd angen enw defnyddiwr a chyfrinair arnoch chi.  Gall hwn helpu pan fydd yr wybodaeth hon gennych.  Gallwch ddechrau a stopio’r fideo hwn ar unrhyw adeg.    

 

Bydd tiwtorial ar-lein hefyd ar gael i roi cymorth i chi ar sut i ddefnyddio ein Safle Dysgu Rhithwir sy'n gysylltiedig â'r cwrs.   Mae deunydd ar gael ar-lein i'w lawrlwytho (nid ydym yn argymell eich bod yn argraffu dogfennau), sy’n cynnwys adrannau byr o drafodaeth a gweithgareddau wedi eu darparu gan y tiwtor i'w lawrlwytho neu wrando arnynt ar adegau cyfleus.  Nid yw'n ofynnol i chi weithio trwy aseiniadau a thasgau yn fyw ac ar-lein, na chwblhau/llwytho deunydd asesu ar-lein.  Yn y modiwlau hanes celf gynnar, bydd eich dyddiadur dysgu personol/dyddiadur gweledol a chofnod o’r tasgau a gwblheir drwy gydol y cwrs yn dod yn rhan annatod o'r asesiad.  Byddwch yn cyflwyno'r astudiaeth gymharol, y dyddiadur dysgu a'r traethawd terfynol o astudiaeth unigol mewn fformat electronig ar gyfer asesu.  Nid oes unrhyw rwymedigaeth arnoch i gynnal blog (er y gallwch wrth gwrs) fel rhan o'r asesiad.

Mae ein tiwtor yn disgrifio dysgu o bell fel hyn:

'Mae'r cwrs wedi'i lunio fel set o unedau dysgu i'w hastudio wrth eich pwysau.  Mae hyn yn golygu bod y pwyslais ar roi arweiniad, gwybodaeth, tasgau ac asesiadau i chi er mwyn i chi weithio drwyddynt ar eich cyflymder eich hun ac yn ôl eich amserlen eich hun.  Er bod dyddiad dechrau a gorffen swyddogol ar gyfer y modiwl, gallwch addasu yr astudiaethau i gyd-fynd â'ch cyfyngiadau amser a'ch anghenion.

Dyma ddwy sesiwn flasu am ddim i chi roi cynnig arnynt:

 siarad yn ffigurol

Portreadau yng Nghymru

Beth am gofrestru ar un o'n cyrsiau dysgu wrth eich pwysau newydd?  Cyrhaeddom restr fer Gwobr Dysgu Gydol Oes y Prifysgolion Cenedlaethol am y fenter newydd hon o dan y meini prawf oedd yn galw am arloesi wrth ddylunio cyrsiau a chynaliadwyedd.