Lena

A oedd gynnych unrhyw bryderon am astudio ar-lein?

Oedd, roeddwn i'n poeni braidd gan nad ydw i erioed wedi gwneud hyn o'r blaen.

 Beth wnaeth eich helpu i wneud y penderfyniad?

Y ffordd y cyflwynwyd yr wybodaeth ac, roeddwn i'n chwilfrydig am Nocturnes.

 Sut oeddech chi'n teimlo am gyflymder y dysgu?

Roeddwn i'n gofyn llawer o gwestiynau a chefais ymateb da bob amser ac fe wnes i gymryd fy amser.

 A roddodd e unrhyw syniadau neu sgiliau newydd i chi nad oeddech wedi'u defnyddio o'r blaen? 

Do, fe wnaeth.  Roeddwn i'n teimlo'n fwy rhydd ac wedi darganfod ffordd newydd o baentio gyda dyfrlliw;  i fynd allan yn y tywyllwch ac edrych ar oleuadau tai a goleuadau stryd fel profiad newydd a phaentio'r tywyllwch.

Sut oeddech chi'n teimlo am y lefel a'r tasgau o fewn yr unedau dysgu?  

Da iawn.  Roeddwn i angen help ac fe wnes i ei gael hefyd.  Dim problem.

 Beth oedd eich profiad o gefnogaeth y tiwtor? 

Da iawn, gan fy mod i wedi gofyn llawer o gwestiynau oherwydd fy mod yn dod o Sweden ac er mwyn deall y ffordd o feddwl ac o wneud, gofynnais a chael ymateb da. 

 Mewn un frawddeg crynhowch eich profiad… 

Rwy'n falch fy mod wedi gwneud y cwrs hwn gan ei fod wedi rhoi cryd dipyn o help i fi.