Y Gyfraith yng Nghymru - ei gwneud hi’n gliriach, yn fwy modern ac yn haws i'w defnyddio
Adeilad Elystan Morgan
23 Medi 2015
Fel rhan o ymgynghoriad Comisiwn y Gyfraith i wella ffurf a hygyrchedd y gyfraith yng Nghymru, mae Adran y Gyfraith a Throseddeg yn cynnal digwyddiad yfory, dydd Iau 24 Medi am 5.30pm yn adeilad Elystan Morgan ar gampws Llanbadarn.
Gyda thwf Cyfraith Gymreig dwyieithog mewn meysydd datganoledig, mae'n dod yn fwyfwy anodd i gyfreithwyr, darparwyr cyngor i eraill, a'r cyhoedd i ddod o hyd iddo ac i'w ddeall.
Weithiau mae'r gyfraith ar un pwnc (er enghraifft, cyfraith plant a chyfraith addysg) i'w chanfod ar draws nifer o wahanol ddarnau o ddeddfwriaeth – o’r Cynulliad Cenedlaethol a Senedd San Steffan. Gall hyn fod yn ddryslyd iawn.
Yn ogystal â thrafod dwyieithrwydd, mae'r papur ymgynghori yn ymdrin â chyfundrefnu a chyfnerthu, hygyrchedd Cyfraith Cymru, drafftio, a dehongli cyfraith datganoledig.
Meddai’r Athro John Williams, Pennaeth Adran y Gyfraith a Throseddeg: “Mae hwn yn gyfle i chi ddweud eich dweud ar siâp y gyfraith yng Nghymru yn y dyfodol. Mae gan y Comisiwn ddiddordeb arbennig ym marn ymarferwyr, sy'n rhoi cyngor i eraill yn enwedig yn y trydydd sector, academyddion ac aelodau o'r cyhoedd ledled Cymru ac nid dim ond y cytrefi mawr. Mae hwn yn gyfle gwych i Geredigion gael dweud ei dweud."
Meddai Syr David Lloyd Jones, Cadeirydd Comisiwn y Gyfraith: “Er mwyn i’r gyfraith i fod yn deg, rhaid fod modd i’w deall. Mae hi’n gyfnod tyngedfenol yn natblygiad y gyfraith sy'n ymwneud â Chymru. Mae gennym gyfle gwych i baratoi'r ffordd ar gyfer deddfwriaeth gliriach, symlach, mwy modern ac hygyrch, sy'n hawdd ac ar gael am ddim, ac sydd yn hawdd i'w deall gan weithwyr proffesiynol a'r cyhoedd.
“Wrth i'r Cynulliad ennill pwerau deddfu ehangach, dyma'r amser i ni ystyried yn ofalus sut gall y Llywodraeth a'r system gyfreithiol weithio gyda'i gilydd i wneud cyfraith da i Gymru.”