Cyngor Bar India yn cymeradwyo graddau’r Gyfraith Prifysgol Aberystwyth

Aelodau Cyngor Bar India yn ystod ymweliad diweddar ag Aberystwyth

Aelodau Cyngor Bar India yn ystod ymweliad diweddar ag Aberystwyth

28 Ionawr 2015

Mae cynlluniau gradd y Gyfraith Prifysgol Aberystwyth wedi cael eu cymeradwyo gan Gyngor Bar India.

Golyga’r cyhoeddiad hwn y bydd myfyrwyr sy'n astudio graddau LLM a LLB y Gyfraith  ym Mhrifysgol Aberystwyth yn rhydd i ymarfer y Gyfraith yn India.

Sefydlwyd Adran y Gyfraith a Throseddeg yn Aberystwyth yn 1901 a hi yw'r hynaf yng Nghymru.

Mae'r Adran yn cynnig rhaglen gynhwysfawr o raddau israddedig yn y Gyfraith; Cyfraith Droseddol; Cyfraith Ewropeaidd; Cyfraith Busnes; Hawliau Dynol; Y Gyfraith gydag Ieithoedd; Troseddeg; Troseddeg gyda Seicoleg Gymhwysol; Y Gyfraith a Throseddeg; a Seicoleg a Throseddeg.

I fyfyrwyr ôl-radd mae’r Adran yn cynnig Graddau Ymchwil, graddau Meistr trwy Ymchwil a graddau Meistr a Addysgir. Mae hefyd yn cynnig graddau Meistr Dysgu o Bell sydd yn llwyddiannus ac yn boblogaidd iawn ac sy'n denu myfyrwyr o bob cwr o'r byd.

Dywedodd Yr Athro John Williams, Pennaeth Adran y Gyfraith a Throseddeg ym Mhrifysgol Aberystwyth; “Rydym yn croesawu'n fawr gymeradwyaeth Cyngor Bar India i raddau’r Gyfraith yma ym Mhrifysgol Aberystwyth. Golyga’r gydnabyddiaeth hon bod cyfle gwych i fyfyrwyr o India i ddilyn graddau o ansawdd uchel a addysgir gan academyddion blaenllaw ym Mhrifysgol Aberystwyth ac yn cyfuno hyn â rhagolygon rhagorol ar gyfer eu gyrfaoedd yn y dyfodol.”

“Mae gan Adran y Gyfraith a Throseddeg enw nodedig fel canolfan ar gyfer astudio’r Gyfraith ymysg myfyrwyr rhyngwladol gyda llawer yn astudio yma o Malaysia, Affrica, y Dwyrain Canol, UDA, Canada, Ewrop, a Tsieina. Rydym yn edrych ymlaen at groesawu myfyrwyr o India.”

Dywedodd Ruth Owen Lewis, Cyfarwyddwr Swyddfa Rhyngwladol Prifysgol Aberystwyth; “Mae ein strategaeth Ryngwladol yn rhoi pwyslais mawr ar bartneriaethau, ac mae derbyn cydnabyddiaeth Cyngor Bar India yn cefnogi ein bwriad i sefydlu partneriaethau cadarn a chydweithio gydag ysgolion y Gyfraith yn India. Roeddem yn falch iawn o groesawu uwch-ddirprwyaeth o Gyngor Bar India i Adran y Gyfraith a Throseddeg, adran sydd â hanes gwych o addysgu ac ymchwil. Bydd y gydnabyddiaeth hon yn ein galluogi i hyrwyddo’n fwy effeithiol ein graddau Cyfraith rhagorol yn India, sy'n farchnad bwysig iawn i Brifysgol Aberystwyth.”

Mae rhaglenni’r Gyfraith sy’n cael eu cynnig ym Mhrifysgol Aberystwyth yn cynnwys ysgoloriaethau cystadleuol i fyfyrwyr o India a gwahoddir ceisiadau ar gyfer dechrau ym Medi 2015.

Bydd cynrychiolwyr o Brifysgol Aberystwyth yn teithio i India ym mis Chwefror 2015 i gwrdd â Chyngor y Bar India ac i drafod cydweithio pellach gydag Ysgolion y Gyfraith yn India.

Mae rhestr lawn o gyrsiau’r Gyfraith sydd ar gael yn Aberystwyth i'w gweld ar-lein:http://courses.aber.ac.uk/browser/law-and-criminology/.