Dyfodol y Gyfraith yng Nghymru
Syr David Lloyd Jones, Cadeirydd Comisiwn y Gyfraith Cymru a Lloegr
17 Ebrill 2015
Traddodir darlith gyhoeddus flynyddol y Ganolfan Materion Cyfreithiol Cymreig gan Syr David Lloyd Jones, Cadeirydd Comisiwn y Gyfraith Cymru a Lloegr a Chymrawd er Anrhydedd Prifysgol Aberystwyth ar Iau 23 Ebrill am 6:30 yr hwyr yn Adeilad Elystan Morgan, Canolfan Llanbadarn.
Mae gweithredu Rhan 4, Deddf Llywodraeth Cymru 2006 yn golygu, am y tro cyntaf ers dros 450 mlynedd, ei bod yn ystyrlon i siarad am gyfraith Cymru fel system gyfreithiol fyw. Fodd bynnag, yn sgil y datblygiad hwn daw nifer o heriau newydd, yn enwedig mewn perthynas â ffurf a hygyrchedd y gyfraith a gynhyrchwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol a Llywodraeth Cymru.
Yn ddiweddar, mae Comisiwn y Gyfraith Cymru a Lloegr wedi dechrau prosiect a fydd yn ystyried ffyrdd posibl ymlaen.
Yn y ddarlith hon, bydd Cadeirydd y Comisiwn ers mis Awst 2012 Syr David Lloyd Jones, yn ystyried ystod o faterion yn ymwneud â sut i wneud deddfwriaeth sydd o ansawdd gwell ac sy’n fwy hygyrch, gan gynnwys ffurfio polisi, llunio deddfwriaeth, cyfuno, cyfundrefnu a’r defnydd o'r rhyngrwyd. Bydd hefyd yn ystyried materion yn ymwneud â deddfwriaeth yn yr iaith Gymraeg.
Addysgwyd Syr David yng Ngholeg Downing, Caergrawnt a chafodd ei alw i'r bar yn 1975 (y Deml Ganol). O 1975-1991 bu'n Gymrawd o Goleg Downing.
Yn 1999 penodwyd ef yn Gwnsler y Frenhines ar ôl gwasanaethu fel Cwnsler y Goron Iau (Cyfraith Gwlad) am ddwy flynedd.
Daeth yn farnwr yr Uchel Lys yn 2005, a bu'n Farnwr Llywyddol ar Gylchdaith Cymru a Chadeirydd Pwyllgor Sefydlog yr Arglwydd Ganghellor ar yr Iaith Gymraeg o 2008 tan 2011.
Er mwyn cydnabod ei gyfraniad i ddatblygiad Cymru'r Gyfraith a hyrwyddo’r Gymraeg o fewn y system gyfreithiol, urddwyd Syr David yn Gymrawd er Anrhydedd Prifysgol Aberystwyth yn ystod Graddio yn 2012.
Wrth siarad cyn y digwyddiad, dywedodd Dr Catrin Fflur Huws, Cyfarwyddwr y Ganolfan Materion Cyfreithiol Cymreig: "Mae'r Ganolfan Materion Cyfreithiol Cymreig yn falch iawn o groesawu Syr David i Aberystwyth ar gyfer y ddarlith hon. Mae gymaint o agweddau o gyfraith Cymru sydd angen sylw a manylder o ran cyfreithiau newydd a diwygio. Gyda chyflwyno mwy o bwerau i Gymru, mae’n amserol iawn i drafod y mater hwn.”
Bydd y ddarlith yn dechrau am 6.30 yr hwyr yn Narlithfa Theatr T1 yn Adeilad Elystan Morgan, Canolfan Llanbadarn Prifysgol Aberystwyth. Cynhelir derbyniad diodydd yng nghyntedd adeilad Elystan Morgan o 6.00 yr hwyr.
Canolfan Materion Cyfreithiol Cymreig
Lansiwyd y Ganolfan Materion Cyfreithiol Cymreig yn Ionawr 1999 er mwyn cyd-asio a chynnig canolbwynt i arbenigedd o fewn Adran y Gyfraith a Throseddeg a gwaith ar y gyfraith fel y mae’n cael ei defnyddio yng Nghymru ac ar ddatblygiadau cyfreithiol cyffredinol sydd yn berthnasol i Gymru.
Un o brif amcanion y Ganolfan yw trafod a oes yna bersbectif Cymreig gwahanol ar gwestiynau cyfreithiol cyffredinol o fewn systemau cyfraith cyffredin Lloegr a Chymru, ac i sicrhau bod datblygiadau cyfreithiol Cymreig yn cael eu gosod o fewn cyd-destun ehangach datblygiadau yn y Deyrnas Gyfunol, Ewrop ac yn Rhyngwladol.