Drama gan ddarlithydd y Gyfraith Aberystwyth yn plesio cynulleidfaoedd Caeredin
Gwydion Rhys a François Pandolfo. Ffotograffiaeth gan Keith Morris.
13 Awst 2015
Mae drama arloesol Catrin Fflur Huws am fywyd yr athrylith cyfrifiadurol a’r torrwr codau Alan Turing ar daith yng Ngŵyl Ffrinj Caeredin ar ôl mwynhau derbyniad gwersog gan gynulleidfaoedd yng Nghymru ac yn Llundain ac wedi derbyn adolygiadau disglair.
Mae To Kill a Machine yn cymryd golwg o’r newydd, a llai rhamantaidd ar fywyd tymhestlog Turing. Bu’r modd y cafodd ei rywioldeb ei drin gan y rheiny mewn awdurdod olygu iddo gyflawni hunanladdiad yn y pendraw.
Taith i Bletchley Park bedair blynedd yn ôl sbardunodd yr awen greadigol yn Catrin, ac amlygodd ei hun eto pan oedd yn mynychu cwrs ysgrifennu Sherman Cymru Caerdydd ar y cyd â Chanolfan y Celfyddydau Aberystwyth.
Meddai Catrin: 'Roedd rhan o'r broses yn gofyn i ni rannu'n grwpiau ac roedd yn rhaid meddwl am syniadau ar gyfer drama. Yn ystod f’ymweliad â Bletchley cafodd hanes bywyd Turing gryn effaith arnaf, fel yn wir ei ysgrifau sy'n cyffwrdd ar feysydd megis deallusrwydd artiffisial a rhyw.
'Roeddwn i eisiau ysgrifennu drama am Turing y dyn, nid Turing yr athrylith. Rwyf wedi defnyddio peth o'i waith ei hun - yn enwedig am beiriannau’n meddwl - i geisio dangos peth o'r cymhlethdod a'r rhith o gwmpas rhyw. Roeddwn yn ymwybodol iawn fy mod yn ysgrifennu am fywyd rhywun, ei fywyd ef ei hun, ac nad yw'n rhyw gymeriad ffuglennol.'
Cyfarwyddwr y ddrama yw Angharad Lee a chynhyrchwyd hi gan Sandra Bendelow o Scriptography Productions Aberystwyth. Mae’r cynhyrchiad wedi derbyn arian gan Gyngor Celfyddydau Cymru, tra bod Cwmni Arad Goch a Chanolfan y Celfyddydau Aberystwyth wedi darparu cefnogaeth bellach a lle ymarfer.
Mae To Kill A Machine yng Ngŵyl Ffrinj Caeredin tan 31 Awst yn Zoo Aviary Venue 124, bob nos heblaw Dydd Mawrth. Gallwch archebu tocynnau yma.