Ganolfan Heriau Planedol a Gwleidyddiaeth

Cyflwyniad i'r Ganolfan Heriau Planedol a Gwleidyddiaeth

Rydym yn byw ar blaned gyd-gysylltiedig lle mae systemau naturiol, technolegol, a chymdeithasol a gwleidyddol yn cydymweithio mewn ffyrdd cymhleth a heriol. Mae’r Ganolfan Heriau Planedol a Gwleidyddiaeth yn cael ei llywio gan genhadaeth i ddeall y cydymweithio cymhleth hwn yn well. Mae’n cael ei llywio hefyd gan alw cynyddol ar y gwyddorau naturiol a’r gwyddorau cymdeithasol a gwleidyddol i geisio dod â’u safbwyntiau damcaniaethol, methodolegol ac empeiraidd yn nes at ei gilydd er mwyn i ni allu mynd i’r afael â heriau allweddol: o fygythiadau, hen a newydd, i ddiogelwch i ddarpariaeth iechyd, cynhyrchu bwyd cynaliadwy, a newid hinsawdd.

Mae cenhadaeth y Ganolfan hon yn unigryw mewn tair ffordd.

Yn gyntaf, mae’r Ganolfan yn cymryd natur ‘blanedol’ heriau byd-eang o ddifri, hynny yw, eu bod yn golygu trafod, a chyfaddawdu, rhwng pobl o amgylch y byd a hefyd, yn hanfodol, yn golygu ymgysylltu o ddifri â ffurfiau planedol eraill o fywyd (a di-fywyd) y mae gweithgarwch dyn yn rhan ohono. Mae’r Ganolfan yn deall bod problemau cymdeithasol a gwleidyddol byd-eang yn rhan hanfodol o heriau ‘planedol’ llawer ehangach sy’n wynebu planhigion, anifeiliaid, ac ecosystemau. Y safbwynt hwn, sy’n gwneud systemau dynol a chymdeithasol yn rhan annatod o ddadansoddi systemau planedol cymhleth (ac felly hefyd yn peri bod angen datblygu offerynnau methodolegol newydd), sy’n gwneud cenhadaeth y Ganolfan yn wahanol i astudio prosesau ‘globaleiddio’.

Yn ail, rydym hefyd yn ymchwilio i ganlyniadau moesegol a gwleidyddol y bygythiadau a’r heriau sy’n codi o gydgysylltu planedol. Rydym yn ymchwilio i oblygiadau difodiant a achosir gan arfau niwclear, cwymp ecolegol a gwrthrychau y tu allan i’r blaned a’r hyn y maent yn ei olygu i ddychymyg gwleidyddol a moesegol a strwythurau ar y blaned.

Yn drydydd, lle arferai disgyblaethau academaidd unigol, neu waith ‘rhyngddisgyblaethol’ fynd i’r afael â systemau cymdeithasol, naturiol a thechnolegol yr heriau hyn, mae ein dealltwriaeth ni heddiw o natur integredig systemau cymdeithasol, naturiol a thechnolegol yn galw am integreiddio dadansoddi cymdeithasol a gwleidyddol â data, meddylfryd a dulliau gwyddonol naturiol – er gan werthfawrogi’n feirniadol ac yn fyfyriol botensial a pheryglon integreiddio o’r fath.  Mae’r bobl sy’n cyfrannu at y Ganolfan hon yn ceisio astudio sut gallwn ddeall heriau cymdeithasol a gwleidyddol o safbwynt ‘ôl-ddisgyblaethol’ ac yn ceisio arloesi gwaith ymchwil empeiraidd a damcaniaethol o wleidyddiaeth/gwleidyddiaeth ryngwladol yng nghyd-destun systemau cymdeithasol, naturiol a thechnolegol planedol.

Mae’r Ganolfan hon yn anelu at adeiladu ar y galwadau am ailddychmygu ymrwymiadau gwleidyddol o gofio’r bygythiadau dirfodol a wynebwn heddiw a hefyd y galw cynyddol am fath newydd o ‘wleidyddiaeth blanedol’. Mae’n ceisio mynd i’r afael yn uniongyrchol hefyd â’r galw cynyddol gan ymarferwyr polisi am ddadansoddiadau mwy integredig o heriau fel newid hinsawdd.O’r herwydd, mae’r Ganolfan hon, sy’n cael ei harwain gan yr Athro Milja Kurki ac sydd wedi’i lleoli yn yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol ym Mhrifysgol Aberystwyth, yn ceisio cynnig llwybr newydd i ddadansoddi heriau byd-eang a phlanedol yn ogystal â ffordd newydd o gyflawni gwyddorau cymdeithasol a gwleidyddol, yn cynnwys Cysylltiadau Rhyngwladol.

Amcanion

Amcanion y Ganolfan Systemau Planedol a Gwleidyddiaeth yw:

  • datblygu methodolegau a dulliau arloesol newydd o fynd i’r afael â phroblemau planedol
  • cyflwyno dealltwriaethau newydd a gwell o sut gall y gwyddorau cymdeithasol a gwleidyddol gyfrannu at ymchwil yn y gwyddorau naturiol a thechnoleg, ac fel arall, er mwyn datblygu dealltwriaeth o systemau planedol rhyng-gysylltiedig cymhleth
  • meithrin safbwyntiau, dychymyg ac ymatebion moesegol newydd i fynd i’r afael â’r bygythiadau a’r heriau byd-eang/planedol.

Themâu

  1. Iechyd Planedol – Beth a olygir wrth fynd i’r afael â heriau iechyd mewn systemau naturiol a chymdeithasol rhyngblethedig?
  2. Gwleidyddiaeth Difodiant a Phlanedol – Pa fathau o fygythiadau dirfodol sy’n wynebu dynoliaeth a’r ecosystemau cysylltiedig heddiw a beth yw’r goblygiadau ar gyfer arloesedd technoleg gadarn a chynaliadwy, mesurau ataliol, a sefydliadau cymdeithasol a gwleidyddol?
  3. Cynhyrchu Bwyd Planedol ac Amaethyddiaeth  – Sut mae heriau cymdeithasol a gwleidyddol planedol yn effeithio ar systemau a dulliau cynhyrchu bwyd a pha fath o dechnoleg cynhyrchu bwyd a systemau cymdeithasol y gellir eu datblygu i greu systemau cnydau a chynhyrchu bwyd cynaliadwy? Sut maen nhw’n gysylltiedig â deinameg cymdeithasol a gwleidyddol?
  4. Hinsawdd Blanedol – Beth yw goblygiadau gwyddor hinsawdd ar fywyd cymdeithasol a gwleidyddol a beth yw goblygiadau’r heriau cymdeithasol a gwleidyddol wrth fynd i’r afael â newid hinsawdd? Pa fath o ymateb gwyddonol a gwleidyddol sydd ei angen?
  5. Gwleidyddiaeth Technoleg, Newid Cymdeithasol a Phlanedol – Beth yw’r goblygiadau yn gymdeithasol a gwleidyddol ar gyfer lledaenu hen dechnoleg (e.e. niwclear) a thechnoleg newydd (e.e. bio, gwybodaethol) yng nghymunedau dyn ac anifeiliaid?
  6. Ailddychmygu Gwleidyddiaeth, Moeseg a Chymdeithas o Safbwynt Planedol – Beth mae’n ei olygu ar gyfer dychymyg, fframweithiau ac egwyddorion moesol i ddeall natur systemau planedol cymhleth a’r bygythiadau ynglŷn â hynny.