Y Rhaglen Ysgolheigion Gwadd

Mae'r Adran yn awyddus i annog ymchwil cydweithredol yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Mae croeso felly i ysgolheigion sydd wedi ennill eu plwy, ac sy'n derbyn cymorth ariannol oddi wrth eu sefydliadau eu hunain neu drwy grant ymchwil , gyflwyno cais i dreulio rhwng 3 a 12 mis yn gweithio ar brosiect sy'n uniongyrchol berthnasol â meysydd arbenigedd a diddordebau'r Adran.

Yr Adnoddau

Bydd yr ysgolheigion gwadd yn cael cynnig swyddfa y byddant yn ei rhannu ag eraill (os oes un ar gael), byddant yn gallu defnyddio’r llyfrgell, yr adnoddau TG lleol a byddant yn cael cyfrif e-bost.  Mae gan Lyfrgell Hugh Owen y Brifysgol gasgliadau ymchwil rhagorol yn y maes, ac nid yw’r Adran nepell o'r Llyfrgell Genedlaethol, sy'n un o lyfrgelloedd hawlfraint y Deyrnas Unedig. Mae croeso i ymwelwyr gymryd rhan lawn yng ngweithgarwch ymchwil yr Adran drwy fynd i'w Seminarau Ymchwil wythnosol a thrwy gymryd rhan yng nghyfarfodydd a gweithgareddau niferus ei gwahanol Grwpiau a Chanolfannau Ymchwil.

Yr hyn y disgwylir i’r Cymrodyr Gwadd ei wneud

Diben y cynllun hwn yw denu ysgolheigion nodedig i'r Adran a all gyfrannu at ei gweithgareddau deallusol ac ymchwil, a'u cyfoethogi. Felly, yn ogystal â chynnal eu hymchwil eu hunain, bydd disgwyl i Gymrodyr Gwadd gymryd rhan lawn yng ngweithgareddau canlynol yr Adran:

  • Cynnal gwaith ymchwil ar y cyd â staff yr Adran
  • Cyflwyno un neu ragor o bapurau sydd ar y gweill yn rhan o gyfres Seminarau Ymchwil yr Adran, neu i Grwpiau Ymchwil priodol
  • Traddodi darlith ffurfiol i'r Athrofeydd neu i'r cyhoedd yn ehangach

Categorïau’r Cymrodyr Gwadd

Yr hyn sy'n bwysig i lwyddiant y cynllun yw bod ymwelwyr yn chwarae rhan lawn ym mywyd deallusol yr Adran. Er mwyn sicrhau hyn, bydd yr Adran yn rhoi blaenoriaeth i bobl ar sail yr ystyriaethau canlynol wrth benodi Cymrodyr Gwadd:

i)  Rhoddir blaenoriaeth i ymwelydd sydd wedi'i enwebu gan aelod presennol o'r staff, ac sy'n rhan o waith grant ymchwil neu gydweithredol sydd eisoes ar y gweill â'r aelod hwnnw o'r staff. Bydd trefniadau cyfnewid o'r math hwn (a ariennir gan gynlluniau megis Ymddiriedolaeth Ryngwladol Newton  neu drefniadau cyllido ar y cyd tebyg eraill) yn cael eu ffafrio i gychwyn;

ii)  Fel arall, dylai ymgeisydd fod wedi'i noddi gan aelod unigol o'r staff, neu gan Ganolfan Ymchwil, ac mae'r 'noddwr' drwy hynny'n gweithredu fel mentor i'r ymwelydd, gan  chwarae rhan allweddol ym mhrosiect ymchwil yr ymwelydd a hwyluso ymdrechion i'w gynnwys yn y cyfresi seminarau perthnasol. Lle bo hynny'n briodol, bydd yn rhaid monitro'r gwaith i gydymffurfio ag amodau fisa hefyd yn rhan o'r swyddogaeth hon. Yn ogystal ag unrhyw ysgrifennu a chyhoeddi y byddant yn ei wneud ar y cyd, byddem hefyd yn annog yr aelod staff a'r Cymrawd Gwadd i weithio tuag at gyflwyno cais am grant ymchwil cydweithredol i'r dyfodol.

iii)  Os nad yw ymgeisydd posib eisoes wedi meithrin cysylltiadau ymchwil ag aelod o'r staff, dylai ysgrifennu at y Cyfarwyddwr Ymchwil ar y cychwyn i holi a fyddai rhywun addas ar gael ar ei gyfer. I helpu i asesu hyn, bydd gofyn i ymgeiswyr ddarparu datganiad am y prosiect ymchwil (hyd at 1000 o eiriau), dau dystlythyr academaidd a, lle bo hynny'n briodol, tystiolaeth addas o'u gallu yn yr iaith Saesneg. Cynghorir y rhai sy'n dymuno cyflwyno cais drwy'r dull hwn wneud ymholiad anffurfiol ar y cychwyn er mwyn sicrhau bod lle ar gael cyn mynd ati i gyflwyno cais ffurfiol.

Y Broses Ymgeisio

Ystyrir ceisiadau ddwywaith y flwyddyn, a rhaid eu cyflwyno erbyn dau ddyddiad: sef diwedd Chwefror (ar gyfer ymweliadau yn ystod y semester cyntaf, neu ddau semester, y flwyddyn academaidd nesaf); diwedd Awst (ar gyfer ymweliadau yn ystod yr ail semester, neu'r flwyddyn galendr lawn nesaf).

Rhaid i ymgeiswyr yng nghategorïau i) a ii) uchod ddarparu'r manylion canlynol drwy eu henwebydd neu eu noddwr:

  • eu maes arbenigedd a'u diddordebau ymchwil
  • y sawl a fydd yn cydweithio â nhw neu eu noddwr yn yr Adran
  • eu cydweithrediad ymchwil arfaethedig ac amcanion yr ymweliad arfaethedig
  • cadarnhad bod gan ganddynt ganiatâd i gael cyfnod sabothol neu ffynhonnell ariannol annibynnol debyg i'w cefnogi yn ystod eu hymweliad
  • curriculum vitae  a manylion cyswllt
  • dyddiad cychwyn a gorffen yr arhosiad arfaethedig, a  faint o gymorth grant sydd ar gael
  • manylion eu statws fisa (os yw hynny'n berthnasol)

Rhaid i ymgeiswyr yng nghategori iii) ddarparu'r dogfennau y gofynnir amdanynt uchod. Bydd pwyllgor priodol o'r Tîm Rheoli yn ystyried y ceisiadau. Dylid cyfeirio pob cais ac ymholiad at Gyfarwyddwr Ymchwil yr Adran (gweler y Proffiliau Staff).