Canolfannau Ymchwil a Sefydliadau

Mae'r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn gartref i sawl sefydliad a chanolfan ymchwil. Mae pob un o'r sefydliadau hyn yn canolbwyntio ar un neu ragor o feysydd ymchwil arbenigol. Yn rhan o'u gweithgareddau, maent yn cynnal cynadleddau a gweithdai, yn croesawu siaradwyr gwadd ac maent yn hwyluso rhyngweithio a throsglwyddo gwybodaeth rhwng academyddion a llunwyr polisi.

Gall myfyrwyr sy'n astudio yn yr Adran fod yn gysylltiedig â llawer o'r digwyddiadau a drefnir gan sefydliadau a chanolfannau, ac mae rhwydd hynt iddynt gymryd rhan ynddynt hefyd. I gael rhagor o wybodaeth am astudio yn yr Adran, darllenwch ein gwybodaeth i ddarpar fyfyrwyr neu cysylltwch â'r Gweinyddwyr Derbyn Myfyrwyr ar gyfer Astudiaethau Israddedig ac Uwchraddedig.