Llyfryn Incwm Fferm Cymru yn darparu canlyniadau newydd o'r Arolwg Busnes Fferm (FBS) ar gyfer 2014-15
03 Rhagfyr 2015
Mae’r Llyfryn Incwm Fferm Cymru diweddaraf, a gyhoeddwyd yr wythnos hon gan IBERS (Athrofa’r Gwyddorau Biolegol Amgylcheddol a Gwledig) Prifysgol Aberystwyth, yn darparu canlyniadau newydd o'r Arolwg Busnes Fferm (FBS) ar gyfer 2014-15. Mae'r data yn dangos yr amrywiad mewn perfformiad rhwng y perfformwyr gorau a’r rhai cyfartalog ac yn dangos y sgôp sy'n bodoli ar gyfer newid.
Dywedodd Tony O'Regan, Cyfarwyddwr yr Uned FBS ym Mhrifysgol Aberystwyth
"Mae llawer o ffermwyr yng Nghymru yn darparu data yn garedig ar gyfer yr Arolwg Busnes Fferm a mi fydd ffermwyr ledled Cymru yn sylweddoli bod y llyfryn hwn yn cynnwys gwybodaeth gywir a dibynadwy gyda samplau o faint da ar gyfer pob math o fferm. Mae'r llyfryn hwn yn arf gwerthfawr a fydd yn helpu ffermwyr i feincnodi eu perfformiad ".
"Y ffactor cyson bob blwyddyn yw'r ystod o broffidioldeb o fewn y ffermydd sampl, er enghraifft mae traean uchaf o ffermwyr gwartheg a defaid yr iseldir yn cadw 32% o'r allbwn fel elw, o'i gymharu รข 20% fel cyfartaledd. Yn yr un modd mae traean uchaf unedau llaeth iseldir yn cyflawni 30% o'r allbwn fel elw yn erbyn cyfartaledd o 20%, "meddai Mr O'Regan.
Mae angen rhoi sylw penodol i gyfraniad y Taliad Sengl, cymorthdaliadau eraill ac incwm amrywiol fel y gall y darllenydd archwilio cyfraniad y mentrau 'ffermio' i'r llinell waelod. Er enghraifft, cyfrannodd y tair ffynhonnell hon tua 38% o allbynnau ac o bosibl 180% o'r elw, ar gyfartaledd, ar gyfer ffermydd defaid mynydd.