Myfyriwr IBERS yn ennill Ysgoloriaeth Cyfoeth Naturiol Cymru
Anthony Barker
29 Medi 2014
Mae un o fyfyrwyr IBERS Prifysgol Aberystwyth wedi llwyddo i ennill lleoliad gwaith 12 mis gyda Chyfoeth Naturiol Cymru.
Ymgeisiodd Anthony Barker, sydd newydd gwblhau ei ail flwyddyn yn astudio am radd israddedig mewn Bioleg y Môr a Dŵr Croyw, am leoliad gwaith ynghyd â myfyrwyr eraill o brifysgolion Bangor, Abertawe, Lerpwl a Heriot-Watt. Llwyddodd i gael cyfweliad, ac yna cafodd ei ddewis ar sail ei brofiad blaenorol a’i frwdfrydedd.
Bydd y lleoliad gwaith 12 mis gyda Chyfoeth Naturiol Cymru, Corff a Noddir gan Lywodraeth Cymru sy’n ymroddedig i gynnal adnoddau naturiol Cymru mewn modd cynaliadwy, yn dechrau yn ddiweddarach y mis hwn. Bydd Anthony yn ymuno â Thîm Monitro Morol Cyfoeth Naturiol Cymru ym Mangor lle bydd yn cael ei hyfforddi i ddefnyddio’r technegau diweddaraf ar gyfer cynnal arolygon morol, o SGWBA blymio i arolygon sonar sganio o’r ochr, gwaith dadansoddi yn y labordy a thrin data.
Ar ôl clywed ei fod wedi cael lle gyda thîm Cyfoeth Naturiol Cymru dywedodd Anthony “Rwy’n hynod ddiolchgar i Gyfoeth Naturiol Cymru am gynnig y cyfle hwn i mi; alla i ddim disgrifio pa mor gyffrous rwy’n teimlo ynglŷn â’r flwyddyn sydd o fy mlaen. Mae cefnogaeth IBERS wedi bod yn anhygoel; mae ymdrechion y staff a’r addysg a gefais ganddynt wedi bod yn wirioneddol amhrisiadwy i lwyddiant fy nghais. Bydd y profiad hwn yn gam allweddol tuag at wireddu fy uchelgais o weithio ym maes cadwraeth yn yr amgylchedd morol a dŵr croyw.”
Meddai Dr Helen Marshall, tiwtor Anthony ym mlwyddyn 1 a 2 “Mae Anthony yn llawn haeddu’r lleoliad hwn. Rwy’n ffyddiog y bydd ei ddeallusrwydd, ei brofiad, ei aeddfedrwydd a’i sgiliau rhyngbersonol yn ei wneud yn ymgeisydd delfrydol ar gyfer y swydd. Rwy’n dymuno’n dda iddo ym Mangor, ac rwy’n edrych ymlaen at ei weld nôl yn Aberystwyth ym mis Medi 2015.”
Mae’r ffaith bod Anthony wedi llwyddo i gael yr ysgoloriaeth hon yn dangos ansawdd uchel myfyrwyr israddedig IBERS a Phrifysgol Aberystwyth. Bydd yn rhoi profiad gwerthfawr i Anthony o weithio gyda rhai o arolygwyr morol gorau Cymru, gan ddefnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf. Yn y gorffennol mae’r lleoliad gwaith hwn wedi arwain at gyflogaeth o fewn Cyfoeth Naturiol Cymru ar ôl i’r myfyriwr raddio.