Templedi Adobe InDesign

Gall cyd-weithwyr sydd â mynediad i Adobe InDesign ac sy'n gallu ei ddefnyddio'n hyderus lawrlwytho a defnyddio'r templedi sydd wedi'u dylunio'n barod er mwyn cefnogi eich anghenion o ran cyhoeddiadau.

Llyfrynnau 

Llyfryn tirwedd Cymraeg (ZIP) (ZIP)

Llyfryn Portread Cymraeg (ZIP) (ZIP)

Taflenni

Opsiwn 1 - Taflen Melyn Cymraeg (ZIP) (ZIP)

Opsiwn 1 - Taflen Nefi Cymraeg (ZIP) (ZIP)

Opsiwn 1- Taflen Wyn Cymraeg (ZIP) (ZIP)

Opsiwn 2 - Taflen Melyn Cymraeg (ZIP) (ZIP)

Opsiwn 2 - Taflen Nefi Cymraeg (ZIP) (ZIP)

Opsiwn 2 - Taflen Wyn Cymraeg (ZIP) (ZIP)

Posteri 

Posteri A4 (ZIP) (ZIP)

Sut i ddefnyddio templedi Adobe InDesign

Lawrlwythwch y cyhoeddiad yr hoffech ei ddefnyddio

  1. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cadw eich delweddau mewn ffolder bwrpasol dan yr enw 'Links'. Mae'r ffolder 'Links' wedi'i chreu ichi o fewn y ffolder sip y byddwch wedi'i lawrlwytho.
  2. Wrth ychwanegu delweddau at eich cyhoeddiadau, gwnewch yn siŵr eich bod yn dilyn pwynt dau uchod ac yn llusgo eich dewis ddelwedd i'r blwch sydd wedi'i fformatio'n barod yn y cyhoeddiad o'ch dewis.
  3. Os hoffech newid neu ddefnyddio lliw gwahanol o'r olwyn o liwiau corfforaethol, cysylltwch â'r Swyddfa Marchnata a Chyfryngau Creadigol i gael mynediad i ffolder bwrpasol y palet lliw.

Defnyddio'r templed InDesign yr ydych wedi'i ddewis

Ceir rhagor o wybodaeth am sut i ddefnyddio'ch templed InDesign yng nghwestiynau cyffredin pwrpasol Adobe.

Allforio eich dewis dempled er mwyn ei ddosbarthu ar y we

Dilynwch y camau canlynol yn InDesign:

  1. Ewch i File
  2. Dewiswch Export 
  3. Dewiswch Adobe Interactive

Bydd InDesign yn rhoi'r dewis ichi gadw eich dogfen fel tudalennau ar wahân neu ar ffurf tudalennau dwbl sy'n llifo. Dylech wirio gyda darparwr y platfform digidol yr ydych wedi'i ddewis a fyddant yn derbyn tudalennau ynteu dudalennau dwbl. Ar gyfer system rheoli cynnwys y Brifysgol, yr ydym yn argymell y dylech gadw eich dogfen ar ffurf tudalennau.

Allforio eich dewis dempled er mwyn ei ddosbarthu mewn print

Dilynwch y camau canlynol yn InDesign:

  1. Ewch i File
  2. Dewiswch Export 
  3. Dewiswch Adobe PDF Pre-sets a dewis High Quality Print