Adnoddau Corfforaethol y Brifysgol

Mae'r dudalen hon wedi'i chreu er mwyn darparu fframwaith ar gyfer defnyddio brand Prifysgol Aberystwyth mewn modd cyson.

Lawrlwythwch logos y Brifysgol, gan gynnwys templedi Adobe a Microsoft sydd eisoes wedi'u dylunio’n barod ac a fydd yn eich galluogi i ddatblygu eich cynnwys o fewn y fframwaith brand diweddaraf.

Sut i Ddefnyddio'r Canllawiau

Cysondeb yw’r elfen bwysicaf wrth fynd ati i gyfleu brand yn effeithiol. O ganlyniad, rydym wedi llunio rhai rheolau syml o ran defnyddio’r logo, math o gynllun tudalen, delweddau a sawl elfen allweddol arall o sut mae Prifysgol Aberystwyth yn cyflwyno ei hun i'r byd.

Mae'r canllawiau brand wedi'u creu gan yr Adran Marchnata a Denu Myfyrwyr, fodd bynnag, mae gan bob adran gwasanaethau academaidd a phroffesiynol a phob aelod unigol o staff gyfrifoldeb i sicrhau eu bod yn cael eu gweithredu'n gywir ar draws pob agwedd ar fywyd y brifysgol.

Am gopi o’r canllawiau brand, e-bostiwch pubstaff@aber.ac.uk.