Mynd Dramor

 

Gallwch astudio neu weithio dramor yn rhan o'ch gradd, am semester, blwyddyn gyfan, neu ychydig wythnosau yn ystod eich gwyliau. Mae buddion anhygoel i'w cael ac mae cyllid ar gael i'ch cefnogi.

Bydd ychwanegu profiad fel hwn at eich portffolio prifysgol yn cyfrannu'n fawr at eich datblygiad personol, gan eich helpu i sefyll allan ymhlith eraill a denu cyflogwyr. Bydd eich amser dramor yn dangos eich gallu i addasu i ddiwylliannau newydd ac ymdopi ag amgylcheddau anghyfarwydd, a bydd hynny’n ychwanegiad gwych i’ch CV.