Prof Mererid Hopwood BA Cydanrhydedd (Prifysgol Cymru, Aberystwyth), PhD (Coleg y Brifysgol, Llundain),

Athro y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd
Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd
Manylion Cyswllt
- Ebost: meh64@aber.ac.uk
- ORCID: 0000-0001-8875-332X
- Swyddfa: 2.50, Adeilad Parry-Williams
- Proffil Porth Ymchwil
- Rhagenwau personol: hi/ei
Proffil
Daeth yr Athro Mererid Hopwood i Gadair Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd ym mis Ionawr 2021. Cyn hynny, bu’n Athro Ieithoedd a’r Cwricwlwm Cymreig ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant. Mae wedi treulio ei gyrfa ym myd ieithoedd, llenyddiaeth, addysg a’r celfyddydau. Enillodd Gadair, Coron a Medal Ryddiaith yr Eisteddfod Genedlaethol a gwobr barddoniaeth Llyfr y Flwyddyn yn 2016 am ei chasgliad o gerddi, Nes Draw. Bu’n fardd plant Cymru ac enillodd wobr Tir na n’Og 2018 am ysgrifennu i blant. Mae wedi cyfansoddi geiriau ar gyfer cerddorion, artistiaid gweledol a dawnswyr, ac wedi cymryd rhan mewn gwyliau llenyddol yn Ewrop, Asia a De America. Cyfieithodd nifer o weithiau llenyddol i’r Gymraeg gan gynnwys dramâu o’r Sbaeneg a’r Almaeneg ar gyfer Theatr Genedlaethol Cymru. Mae’n Gymrawd y Gymdeithas Ddysgedig, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant a’r Academi Gymreig, yn Llywydd Anrhydeddus Cymdeithas Waldo Williams. Hi yw ysgrifennydd Academi Heddwch Cymru.
Gwybodaeth Ychwanegol
Gwybodaeth ychwanegol
Ers fy nyddiau fel myfyrwraig yn Aberystwyth yng nghanol yr 1980au rwyf wedi manteisio ar bob math o gyfleoedd i ddatblygu fy nealltwriaeth am iaith a llenyddiaeth Cymru a rhai o wledydd eraill Ewrop, gan feithrin diddordeb arbennig mewn ysgrifennu a chyfieithu. Cefais gyfle i fyw yn yr Almaen a Sbaen a chyfle hefyd i deithio i lefydd mor amrywiol â Chile a Tymbl, Awstria ac Abertawe, ac o Leipzig i Langollen a Ledbury i ddarllen cerddi a thrafod llenyddiaeth. Ac eleni, er y bydd llawer o’r teithio’n rhithiol, fel Cymrawd Rhyngwladol Gŵyl y Gelli, rwy’n edrych ymlaen at gyfle i ddod i ddysgu mwy am ddiwylliannau gwledydd fel Colombia, Mecsico a Pheriw.
Rwy’n mwynhau cydweithio gydag eraill i gyfuno ffurfiau creadigol. Ymhlith y math hwn o waith mae’r Cantata Memoria, Er Cof am y Plant gyda Karl Jenkins, Hwn yw Fy Mrawd gyda Robat Arwyn a’r opera Wythnos yng Nghymru Fydd gyda Gareth Glyn. O ran dawns wedyn, dros y Cyfnodau Clo diweddar, rwyf wedi dysgu llawer drwy’r prosiect Plethu i greu darnau fel Aber Bach a Hirddydd ar y cyd â Chwmni Dawns Cymru.
Rwy’n aelod o bwyllgor gwaith Barddas, bwrdd golygyddol Taliesin, bwrdd ymddiriedolwyr Canolfan Mileniwm Cymru a bwrdd academaidd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Rwyf hefyd yn aelod cysgodol o bwyllgor gwaith Cymdeithas y Cymod ac yn Is-Lywydd y Movement for the Abolition of War
Dysgu
Module Coordinator
- WEM1120 - Welsh Language 1
- WE11320 - Beginning Welsh ii
- WE11220 - Beginning Modern Welsh 1
- WEM0220 - Welsh Language 2
Lecturer
- CY10920 - Trafod y Byd Cyfoes twy'r Gymraeg
- WE11420 - Introduction to Welsh Literature
- CY20520 - Cymraeg y Gweithle Proffesiynol
- WE11220 - Beginning Modern Welsh 1
- CY13020 - Cymraeg Llafar
- CYM5820 - Cyfieithu Creadigol Rhyngwladol
- CY20420 - Gweithdai Ysgrifennu Creadigol
- CY30420 - Portffolio Ysgrifennu Creadigol Annibynnol
- CY22420 - Y Cyfieithydd a'r Sector Cyfieithu
- CY32420 - Y Cyfieithydd a'r Sector Cyfieithu
Grader
- CY35940 - Prosiect Hir
- CYM5310 - Portffolio Cyfieithu 1 (Cyffredinol)
- CYM5960 - Prosiect Estynedig
- CY36040 - Traethawd Estynedig
- CYM5410 - Portffolio Cyfieithu 2 (Arbenigol)
- WEM0460 - Dissertation: Welsh and Celtic Studies
Assistant
Moderator
- CY20420 - Gweithdai Ysgrifennu Creadigol
- CY30320 - Gweithdai Ysgrifennu Creadigol
- CY30420 - Portffolio Ysgrifennu Creadigol Annibynnol
- CY21420 - Cymraeg Llyfr a Chymraeg Llafar
Course Viewer
Blackboard Dept Admin
Tutor
Attendance Dept Admin
Coordinator
- WEM0220 - Welsh Language 2
- WE11320 - Beginning Welsh ii
- WE11220 - Beginning Modern Welsh 1
- WEM1120 - Welsh Language 1
Eleni byddaf yn cyfrannu at fodiwlau:
Cymraeg i Ddechreuwyr a Chymraeg Ail Iaith
Llenyddiaeth
Ysgrifennu Creadigol
M.A. Astudiaethau Cyfieithu Proffesiynol
Ymchwil
Ymchwil
Iaith a Llenyddiaeth Gymraeg yw fy mhrif ddiddordeb ymchwil diweddar gyda sylw arbennig i farddoniaeth; cyfieithu llenyddiaeth; llenyddiaeth plant; llenyddiaeth heddwch; a datblygu cwricwlwm ac addysgeg iaith.
Cyfrifoldebau
Cyfarwyddwr Ymchwil yr Adran