Q596 Astudiaethau Cyfieithu Proffesiynol Tystysgrif - Diploma - MA

Astudiaethau Cyfieithu Proffesiynol

Dyma gwrs uwchraddedig unigryw sydd yn edrych ar bob agwedd ar waith y cyfieithydd proffesiynol yn y Gymru gyfoes. Bydd y cwrs hwn yn paratoi myfyrwyr ar gyfer gyrfa yn y byd cyfieithu gan roi cyflwyniad iddynt i’r diwydiant yn ogystal â chyfle i ddilyn diddordebau unigol ac arbenigo mewn meysydd megis cyfieithu cyffredinol, cyfieithu deddfwriaethol, technoleg cyfieithu a chyfieithu ar y pryd.  

Mae’r cwrs hwn yn cael ei gynnig i fyfyrwyr sydd newydd raddio ac yn awyddus i ddilyn cwrs uwchraddedig ym maes cyfieithu, ond mae’r cwrs hefyd yn cynnig hyfforddiant ychwanegol i’r rhai hynny sydd eisoes yn gyfieithwyr ac yn dymuno datblygu’n broffesiynol gan ennill cymhwyster cydnabyddedig ychwanegol wrth wneud hynny.

 

 

 

Cwrs i bwy?

  • myfyrwyr sydd newydd raddio mewn pwnc perthnasol
  • unigolion sy’n awyddus i ddechrau ym maes cyfieithu
  • cyfieithwyr profiadol sy’n awyddus i gael cymhwyster pellach, datblygu’n broffesiynol neu arbenigo ymhellach mewn agwedd benodol ar gyfieithu

Mae’r cwrs yn addas ac yn cynnig hyfforddiant felly i fyfyrwyr o bob cefndir, boed yn gyfieithwyr sydd eisoes wedi camu i’r byd gwaith neu’n ddarpar gyfieithwyr sydd yn awyddus i gymryd y cam cyntaf hwnnw. 

 

Tystysgrif / Diploma / MA

 

Un o fanteision mawr y cwrs arbennig hwn yw ei fod yn cynnig llwybrau hyblyg.

Tystysgrif60 credyd
Diploma120 credyd
MA180 credyd


Gellir astudio ar gyfer cymhwyster Tystysgrif yn unig, neu barhau i gwblhau Diploma ac yna cymhwyster MA llawn. Gellir astudio’n llawn amser neu’n rhan amser, a gellir cofrestru ar gyfer cwblhau modiwlau unigol.    

Cwricwlwm

Ceir ystod eang o fodiwlau megis

CYM5110 - Datblygu Sgiliau Cyfieithu              

CYM5210 - Cyfarpar Cyfieithu

CYM5310 - Portffolio Cyfieithu Cyffredinol        

CYM5410 - Portffolio Cyfieithu Arbenigol

CYM5720 - Meistroli Mynegiant                        

CYM5820 - Cyfieithu Creadigol Rhyngwladol

CYM5520 - Cyfieithu ar Waith                         

CYM6110 - Cyflwyniad i Gyfieithu ar y Pryd

CYM6420 - Cyfieithu ar y Pryd: arfer ac ymarfer

CYM6210 - Uwch Sgiliau Golygu

CYM6310 - Hanfodion Isdeitlo

CYM5620 - Prosiect Arbenigol                          

CYM5960 - Prosiect Estynedig

Dyma fodiwl e-ddysgu newydd sbon a gynigir gyntaf erioed yn ystod sesiwn academaidd 2020/21 - bydd yn ddelfrydol fel rhan o raglen DPP, neu fel ffordd o fireinio eich sgiliau ieithyddol. Bydd y cyfan ar gael o gysur eich cartref:

CYM6510 - Ymarfer Cyfieithu a Golygu

Defnyddir amrywiaeth o ddulliau addysgu a chynhelir gweithdai ymarferol, sesiynau wyneb yn wyneb, yn ogystal â sesiynau e-ddysgu wrth baratoi myfyrwyr ar gyfer gyrfa yn y diwydiant cyfieithu. Rhoddir cefnogaeth lawn ac adborth rheolaidd i fyfyrwyr wrth iddynt gwblhau asesiadau a llunio portffolio cyfieithu. 

Profiad Gwaith

Law yn llaw â’r gwaith o ddysgu crefft y cyfieithydd yn ei chyflawnder, ceir cyfle i gael profiad ymarferol amhrisiadwy yn y gweithle. Cwblhau cyfnod byr o brofiad gwaith ac efelychu amodau gwaith go iawn y cyfieithydd proffesiynol yw'r ffyrdd gorau o ddatblygu sgiliau cyfieithu uwch a meithrin cysylltiadau hanfodol ar gyfer y dyfodol.

Partneriaid

Prif bartneriaid y cwrs yw’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, Prifysgol Aberystwyth a Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. Ceir nifer o bartneriaid hanfodol ychwanegol a cheir cydweithio agos â’r rhain wrth iddynt gyfrannu at y cwricwlwm, cyflwyno sesiynau a chynnig lleoliadau gwaith. Mae’r partneriaid hynny’n cynnwys cynrychiolwyr o’r diwydiant cyfieithu a gweithleoedd, megis Gwasanaeth Cyfieithu Llywodraeth Cymru, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, cyfieithwyr llawrydd, arbenigwyr iaith a golygyddion profiadol.

Sut i ymgeisio

Bydd angen gwneud cais ar gyfer y cwrs Astudiaethau Cyfieithu Proffesiynol drwy gwblhau ffurflenni cais Prifysgol Aberystwyth. Mae modd gwneud cais ar-lein neu lawrlwytho’r ffurflenni. Ceir y manylion i gyd ar wefan Swyddfa Derbyn Uwchraddedigion Prifysgol Aberystwyth.

Gofynnir am radd gyntaf mewn pwnc perthnasol a rhaid cwblhau prawf iaith er mwyn sicrhau rhuglder ysgrifenedig yn y Gymraeg a’r Saesneg.

 

Ffioedd

Gweler y tudalennau perthnasol ar gyfer ffioedd dysgu cyfredol.

Digwyddiadau

Cynhelir llawer o weithgareddau a sesiynau blasu mewn nifer o ardaloedd yn ystod yr wythnosau nesaf. Dyma gyfle gwych i gael gwybodaeth uniongyrchol am y cwrs a thrafod yr holl bosibiliadau sydd ynghlwm wrtho. Mae’r sesiynau’n gwbl agored ac mae croeso i unrhyw un alw heibio i gael paned a sgwrs. Yn ystod y cyfnod gofid Covid, rydym yn cynnal #YrAwrGyfieithu ar ein cyfrifon ar y cyfryngau cymdeithasol @CyfieithuCC 

Cystadlaethau