Y weithdrefn ymgeisio
Pryd alla i wneud cais am lety?
Bydd ceisiadau am Fyfyrwyr Israddedig newydd a Myfyrwyr ôl-raddedig newydd yn agor tua dechrau Ebrill.
Mae’r ceisiadau i Fyfyrwyr Presennol yn agor ganol mis Tachwedd.
Noder: mae’n bosibl y bydd y dyddiadau hyn yn amrywio bob blwyddyn academaidd.
Bydd modd i israddedigion wneud cais am lety ar ôl iddynt ddewis Prifysgol Aberystwyth fel eu dewis Cadarn. Bydd modd i uwchraddedigion wneud cais os ydynt wedi cael cynnig i astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth yn unig.
Sut mae gwneud cais am lety?
Bydd angen i chi wneud cais am lety drwy’r Porth Llety ar-lein.
Ewch i’r dudalen sut i wneud cais i weld y canllaw cam wrth gam ar sut i wneud cais.
Beth yw’r porth llety?
Y Porth Llety yw ei'n gwasanaeth ar-lein ble gallwch wneud cais am, a sicrhau, llety ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Sut mae mewngofnodi i’r porth llety?
Dilynwch y linc berthnasol ar ein tudalen Llety.
- Myfyrwyr Israddedig Newydd - cliciwch ar ‘Cofrestru’ er mwyn cofrestru eich manylion gan ddefnyddio eich cyfeiriad ebost personol a’ch dyddiad geni. Defnyddiwch yr un cyfeiriad ebost a ddefnyddioch i wneud cais am eich cwrs. Dim ond os ydych wedi nodi mai Aberystwyth yw eich Dewis Cadarn neu eich Dewis Wrth Gefn y byddwch yn gymwys i wneud cais am lety yn y Brifysgol.
- Myfyrwyr Uwchraddedig Newydd - cliciwch ar ‘Cofrestru’ er mwyn cofrestru eich manylion gan ddefnyddio eich cyfeiriad ebost personol a’ch dyddiad geni. Dim ond os byddwch wedi cael cynnig lle i astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth y byddwch yn gymwys i wneud cais am lety yn y Brifysgol.
- Myfyrwyr Presennol - gallwch fewngofnodi gyda'ch cyfrif TG Prifysgol Aberystwyth fel myfyriwr ABER.
- Myfyrwyr Erasmus a Chyfnewid - Dim ond pan fyddwch wedi bodloni holl amodau eich cynnig academaidd, a phan fyddwch wedi rhoi eich cyfri TG Prifysgol Aberystwyth ar waith (mae'r Gwasanaethau Gwybodaeth yn anfon e-byst at fyfyrwyr i'w gwahodd i wneud hyn o fis Gorffennaf ymlaen), y byddwch yn gymwys i wneud cais am lety yn y Brifysgol. Gallwch wedyn fewngofnodi gan ddefnyddio eich enw defnyddiwr a'ch cyfrinair.
- Myfyrwyr TAR - Dim ond pan fyddwch wedi bodloni holl amodau eich cynnig academaidd, a phan fyddwch wedi rhoi eich cyfri TG Prifysgol Aberystwyth ar waith (mae'r Gwasanaethau Gwybodaeth yn anfon e-byst at fyfyrwyr i'w gwahodd i wneud hyn o fis Gorffennaf ymlaen), y byddwch yn gymwys i wneud cais am lety yn y Brifysgol. Gallwch wedyn fewngofnodi gan ddefnyddio eich enw defnyddiwr a'ch cyfrinair.
A oes gennyf sicrwydd o lety?
Rydych yn cael gwarant o lety ar gyfer eich blwyddyn gyntaf o astudio os ydych yn:
- Myfyriwr Israddedig llawn amser newydd
- Myfyriwr ôl-raddedig newydd
- Myfyriwr cyfnewid/Erasmus rhyngwladol
- Myfyriwr sy'n dychwelyd o gyfnod absenoldeb dros dro i ailddechrau ei flwyddyn gyntaf o astudio
I fod yn gymwys am le wedi’i warantu, mae’n rhaid i ymgeiswyr sicrhau bod eu cais yn dod i law erbyn y dyddiadau cau yn y flwyddyn mynediad a gyhoeddwyd, a’u bod yn cwblhau eu Contract Meddiannaeth erbyn y dyddiad cau a nodir ar y Porth Llety. Sylwer, er ein bod yn gwarantu lle mewn Llety sy'n eiddo i’r Brifysgol, neu a reolir ganddi, ni allwn warantu darparu math penodol o lety, na lleoliad penodol - ewch i'n Polisi Blaenoriaethau i gael rhagor o fanylion.