Partneriaeth Menter a Busnes

02 Chwefror 2020

Mae Ysgol Fusnes Aberystwyth wedi bod yn gweithio gyda Menter a Busnes ers 2015 i ddarparu modiwlau ôl-radd, wedi’u hachredu ar lefel 7 ar gyfer gweithwyr proffesiynol sy'n awyddus i ddatblygu eu sgiliau neu sy'n dymuno cynorthwyo eraill i ddatblygu eu busnesau.

Hwyluswyr, cymhellwyr a mentoriaid yn dathlu llwyddiant ar ôl cwblhau eu modiwlau ôl-radd

05 Ebrill 2019

Cafodd hanner cant o weithwyr proffesiynol sydd wedi cwblhau’r modiwlau Hwyluso ar gyfer Arweinyddiaeth Sefydliadol a Chymell a Mentora ar gyfer Arweinwyr yn llwyddiannus eu cydnabod mewn seremoni wobrwyo a gynhaliwyd ym Mhrifysgol Aberystwyth ddoe, dydd Iau 5ed Ebrill


 

Sgorau Uchel i’r Ysgol Fusnes am Foddhad Myfyrwyr

10 Awst 2016

Mae Ysgol Rheolaeth a Busnes Prifysgol Aberystwyth wedi cael sgôr ardderchog o 90% am foddhad cyffredinol gan fyfyrwyr yn Arolwg Cenedlaethol 2016 yr NSS.

'Busnes yn y Bae' yn profi sgiliau craidd y gweithle

24 Tachwedd 2015

Wnaeth myfyrwyr blwyddyn olaf o'r Ysgol Rheolaeth a Busnes cael eu dewis i gymryd rhan mewn cystadleuaeth ‘Busnes yn y Bae’ ym Mhrifysgol Abertawe fel rhan o Wythnos Entrepreneuriaeth Fyd-eang.

Myfyrwyr Twristiaeth yn Ymweld â Hwb Antur Twristiaeth

20 Tachwedd 2015

Wnaeth fyfyrwyr Twristiaeth yr ysgol Rheolaeth a Rheoli Busnes ymweld â Cheudyllau Llechi Llechwedd yn ddiweddar, cartref yr enwog 'Zipworld' a 'Bounce Below'.

Ymweliad Myfyrwyr i Ganolfan Bywyd Gwyllt Morol Bae Ceredigion

13 Tachwedd 2015

Aeth myfyrwyr israddedig cyrsiau rheoli cefn gwlad a rheoli twristiaeth ar ymweliad maes i Ganolfan Bywyd Gwyllt Morol Bae Ceredigion yng Ngheinewydd, Ceredigion.

Raddedig MSc Marchnata yn dod yn Myfyriwr Gyntaf SMB i gael Thesis wedi’i Cyhoeddi

09 Tachwedd 2015

O dan oruchwyliaeth Dr Jan Breitsohl a Dr Ian Harris, derbyniodd raddedig MSc Marchnata James Wilcox Jones radd dosbarth cyntaf am ei draethawd ar theori ‘groupthink’ mewn cymunedau ariannol ar-lein. Yn dilyn hynny, cafodd y traethawd ei ail-weithio i safon gyhoeddadwy ac mae bellach wedi'i gyhoeddi yn y rhifyn diweddaraf y Journal of Customer Behaviour.

Canlyniadau DHLE 2014 a NSS 2015 yn dangos cyflogadwyedd uchel a boddhad mewn pynciau dysg

24 Awst 2015

Wnaeth 100% o raddedigion SMB mewn i gyflogaeth a / neu astudiaethau pellach o fewn 6 mis o raddio yn 2014.

Gwobr ‘Y Gorau o Gymru’ i Megi

05 Awst 2015

Derbynwyd graddedig Busnes a Rheoli, Megi Williams wobr 'Y Gorau o Gymru' yn y seremoni raddio yn ddiweddar, sy’n rhoddedi i'r myfyriwr sy'n arddangos rhagoriaeth trwy astudiaeth busnes yn yr iaith Gymraeg.

Cyflogadwyedd Graddedigion Ysgol Rheolaeth a Busnes yn uwch na'r cyfartaledd cenedlaethol

17 Gorffennaf 2015

Mae ystadegau sydd wedi eu rhyddhau gan yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch yn dangos bod 94% o israddedigion YRhB yn gweithio neu’n ymgymryd ag astudiaethau pellach neu’r ddau, 13 pwynt canran yn uwch na llynedd.

Llwyddiant i fyfyrwyr Marchnata Aberystwyth yn y Senedd

18 Mehefin 2015

Myfyrwyr yr Ysgol Rheolaeth a Busnes yn creu argraff ar farchnatwyr blaenllaw wrth iddynt gael eu coroni'n bencampwyr Brolio/The Pitch am yr ail flwyddyn yn olynol.

Gwobr ATHE i Fyfyrwyr Twristiaeth YRhB

23 Ionawr 2015

Llongyfarchiadau i Mariya Fileva a Magdalena Bylicka sydd wedi cael eu henwi fel Myfyriwr Gorau Ôl-raddedig a Myfyriwr Gorau Israddedig gan y Gymdeithas Dwristiaeth mewn Addysg Uwch.

Llwyddiant i’r Ysgol Rheolaeth a Busnes yn REF 2014

18 Rhagfyr 2014

Mae 95% o waith ymchwil a gyflwynwyd gan yr Ysgol wedi cael ei farnu 'a gydnabyddir yn rhyngwladol' yn y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil diweddaraf (REF), dim ond un canlyniad nodedig mewn perfformiad cryf gan YRhaB.

Ysgol Rheolaeth a Busnes ar y rhestr fer Ysgol Busnes y Flwyddyn

05 Tachwedd 2014

Aberystwyth wedi cyrraedd rhestr Gwobrau Addysg Uwch y Times 2014.

Gwenno yn ennill Wobr ‘Y Gorau o Gymru’

14 Awst 2014

Fe wnaeth cyn fyfyriwr SMB, Gwenno Llewelyn, ennill wobr y 'Gorau o Gymru' yn y seremoni raddio  ym mis Gorffennaf, sydd yn mynd i'r myfyriwr sy'n dangos rhagoriaeth trwy astudiaeth busnes yn yr iaith Gymraeg.

Ysgol Fusnes Aberystwyth yn gwella ei pherfformiad ymchwil yn Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2021

Mae ansawdd yr ymchwil yn Ysgol Fusnes Prifysgol Aberystwyth wedi cynyddu'n sylweddol, yn ôl Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil  2021. Canfu'r asesiad ymchwil fod yr holl gyhoeddiadau ymchwil a gyflwynwyd o bwys rhyngwladol, a bod 12.8% ohonynt yn perthyn i’r categori 'sy'n arwain yn fyd-eang'. Yn ogystal â hynny, bu cynnydd o 5 pwynt canran yn yr ymchwil y cydnabyddir ei bod yn arwain yn fyd-eang o ran ei 'heffaith'. Dyma rai o’r astudiaethau achos effaith a gyflwynwyd i’r Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil: ymchwil a oedd yn sicrhau fframwaith ar gyfer cynnwys gwerthoedd natur mewn polisïau megis y Confensiwn ar Amrywiaeth Fiolegol; ac ymchwil a fu’n sail i strategaethau'r heddlu o ran mynd i'r afael â throseddau fferm a gwledig. Mae gwelliannau'r Ysgol Fusnes o ran ei pherfformiad ymchwil yn adlewyrchu'r gwelliannau ehangach a gafwyd yn y gweithgareddau ymchwil ar draws Prifysgol Aberystwyth, lle mae 98% o’r ymchwil hwnnw o safon a gydnabyddir yn rhyngwladol neu’n uwch.

Dywedodd yr Athro Mike Christie, Cyfarwyddwr Ymchwil yr Ysgol Fusnes: "Mae'r gwelliannau yn ansawdd yr ymchwil a gynhyrchir gan staff yr Ysgol Fusnes yn adlewyrchu ymroddiad ein hymchwilwyr i gynhyrchu gwaith ymchwil a sicrhau arloesedd o'r radd flaenaf sy'n cael effaith yn fyd-eang".

Trefnir ymchwil yn yr Ysgol Fusnes o amgylch dwy ganolfan ymchwil:

  • Canolfan Cymdeithasau Cyfrifol (CRiSis): sy'n mabwysiadu dull rhyngddisgyblaethol o ymchwilio i sut y gall asesu amryfal werthoedd natur helpu cymdeithasau cyfrifol i fynd i'r afael â heriau amgylcheddol;
  • Canolfan Creadigrwydd, Arweinyddiaeth ac Economïau Rhanbarthol (CLaRE): sy'n mabwysiadu ymchwil drawsddisgyblaethol i arferion a pholisi sefydliadol, adfywio cymunedol a lleol, a’r gwerth sydd mewn meddwl yn greadigol ar lefel leol, ranbarthol a rhyngwladol.

Dywedodd yr Athro Andrew Thomas, Pennaeth yr Ysgol Fusnes: "Mae ymchwil yn elfen graidd o weithgareddau'r Ysgol Fusnes. Mae ein hymchwil yn sicrhau manteision gwirioneddol yng Nghymru a thu hwnt, ac mae hefyd yn sail i’n dysgu a'n haddysgu. Rydym yn sicrhau bod canlyniadau ein hymchwil yn cael eu cynnwys yn ein dysgu a’n haddysgu, fel bod ein myfyrwyr yn cael y wybodaeth ddiweddaraf a mwyaf blaengar sy’n ymwneud â’u meysydd astudio. Er enghraifft, rydym wedi cyflwyno dwy raglen astudio newydd yn ddiweddar (Economeg a Newid Hinsawdd, a Busnes a Newid  Hinsawdd) i adlewyrchu ein cryfderau ymchwil sy'n dod i'r amlwg". Mae Ysgol Fusnes Aberystwyth wedi cyrraedd y 10 uchaf yn y Deyrnas Unedig yn gyson am ei dysgu a’r profiad i fyfyrwyr.

Mae ymchwil Ysgol Fusnes Aber wedi ymchwilio i fanteision lleol a byd-eang coedwigoedd trofannol Indonesia.

Her Sgiliau SMB: Croeso i’r Ysgol

15 Hydref 2015

Roedd Her Sgiliau Busnes Blynyddol yr Ysgol Busnes a Rheolaeth unwaith eto yn fater hynod gystadleuol, gyda'r henwi'n briodol ‘Quietly Confident’ yn fuddugol.