Gwenno yn ennill Wobr ‘Y Gorau o Gymru’
14 Awst 2014
Fe wnaeth cyn fyfyriwr SMB, Gwenno Llewelyn, ennill wobr y 'Gorau o Gymru' yn y seremoni raddio ym mis Gorffennaf, sydd yn mynd i'r myfyriwr sy'n dangos rhagoriaeth trwy astudiaeth busnes yn yr iaith Gymraeg.
Rhan o'r wobr yw lleoliad prosiect chwe wythnos gyda’r noddwyr 'Y Gorau o Gymru' darparwyr bythynnod gwyliau 4 a 5 seren yng Nghymru. Dywedodd cyd-sylfaenydd a chyn-fyfyrwyr Aberystwyth Llion Pughe,
"Rydym yn falch o fod mewn sefyllfa lle y gallwn annog graddedigion busnesau Cymru i fentro i’r byd busnes yng Nghymru. Bydd Gwenno yn awr yn treulio 6 wythnos yn datblygu prosiect newydd gyda gorau o Gymru. Rydym yn gobeithio bydd y profiad hwn ar ddechrau ei gyrfa yn rhoi hyder ychwanegol iddi symud ymlaen yn ei gyrfa.
Credwn yn gryf fod ffyniant economi Cymru yn dibynnu ar gynhyrchu ton ar ôl ton o bobl fusnes newydd. Yn bwysicach na hynny, pobl a fydd yn dychwelyd i'w cymunedau i greu swyddi. Mae Prifysgol Aberystwyth mewn sefyllfa berffaith i gynhyrchu'r rhain, ac fel cwmni Cymreig angerddol, byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi hynny."
Dywedodd Darlithydd mewn Busnes a Rheolaeth, Wyn Morris,
"Mae Gwenno yn enillydd teilwng iawn o wobr am 2014. Mae wedi rhagori ym mhob agwedd ar ei hastudiaeth drwy gyfrwng y Gymraeg, gan ddangos sgiliau dadansoddol a mewnwelediad bydd yn amhrisiadwy i gyflogwr. Bydd yn gaffaeliad i Y Gorau o Gymru yn ystod ei amser gyda hwy, ac yr wyf yn dymuno pob lwc iddi gyda'i gyrfa yn y dyfodol. "