Tystysgrif Uwchraddedig mewn Arwain Newid a Modiwlau Uwchraddedig

Mewn partneriaeth â sefydliad lleol Menter a Busnes, mae Ysgol Fusnes Aberystwyth yn cynnig Tystysgrif Uwchraddedig mewn Arwain Newid. 

Mae'r cymhwyster datblygiad proffesiynol parhaus hwn yn cynnwys tri modiwl, sef Arwain Newid, Cymell a Mentora ar gyfer Arweinwyr a Hwyluso ar gyfer Arweinyddiaeth Sefydliadol, i gyd wedi'u cynllunio i herio'n ddeallusol, datblygu sgiliau ac ehangu gwybodaeth.  

Mae'r tri modiwl wedi'u cynllunio i rymuso unigolion sy'n frwd dros greu trawsnewidiadau cadarnhaol o fewn eu sefydliadau. Mae'r cwrs wedi'i anelu at weithwyr proffesiynol a'r rhai sy'n hunangyflogedig, ac mae'r dysgu ac asesiadau wedi'u cynllunio i fod yn berthnasol i weithgareddau proffesiynol yn y gweithle. Gellir ymgymryd â'r tri modiwl fel modiwlau annibynnol ar gyfer Datblygiad Personol Parhaus lefel uchel, neu bydd cwblhau'r tri modiwl yn llwyddiannus yn arwain at Dystysgrif Uwchraddedig mewn Arwain Newid. 

Mae pob modiwl yn para cyfnod o bum diwrnod, a gall myfyrwyr ddewis cwblhau modiwlau trwy gyfrwng y Gymraeg neu'r Saesneg.  

I gofrestru neu am ragor o wybodaeth cysylltwch â: Laura McSweeney, Lam30@aber.ac.uk.

Arwain Newid

Mae'r modiwl hwn yn adnabod a dadansoddi rhinweddau allweddol yn ymwneud ag arwain, rheoli a gwaith tîm, gan ganolbwyntio ar ysgogi a chefnogi newid. Archwiliwch egwyddorion academaidd Arweinyddiaeth a Newid, cymrwch ran mewn trafodaethau wedi'u hwyluso am hunan-fyfyrio a seminarau ysgogol gydag uwch arweinwyr.  

Dyddiadau 

  • Diwrnod 1 a 2: 10-11 Ionawr 2024  
  • Diwrnod 3 a 4: 7-8 Chwefror 2024  
  • Diwrnod 5: 21 Mawrth 2024  

Cymell a Mentora ar gyfer Arweinwyr  

Mae'r modiwl hwn yn darparu dealltwriaeth o egwyddorion cymell i ddatblygu eich gallu i hyfforddi a mentora, gan gyfuno sgiliau ymarferol â phersbectif academaidd. Rhoddir pwyslais penodol ar bynciau megis arwain sgyrsiau cymhleth yn y gweithle, o drafodaethau i arfarniadau staff a chyfarfodydd tîm.  

Dyddiadau 

  • Diwrnod 1 a 2: 17-18 Ebrill 2024  
  • Diwrnod 3 a 4: 15-16 Mai 2024  
  • Diwrnod 5: 12 Mehefin 2024  

Hwyluso ar gyfer Arweinyddiaeth Sefydliadol 

Mae’r modiwl hwn yn cyflwyno sgiliau hwyluso allweddol gan ddefnyddio dulliau dysgu ymarferol a rhyngweithiol. Mae’r modiwl yn darparu dealltwriaeth o’r damcaniaethau a’r technegau sydd eu hangen i gynllunio a strwythuro sesiynau hwyluso arloesol, ac yn neilltuo un diwrnod dysgu i Setiau Dysgu Gweithredol.  

Dyddiadau 

  • Diwrnod 1 a 2: 18-19 Medi 2024  
  • Diwrnod 3 a 4: 16-17 Hydref 2024  
  • Diwrnod 5: 6 Tachwedd 2024