Cyflogadwyedd Graddedigion Ysgol Rheolaeth a Busnes yn uwch na'r cyfartaledd cenedlaethol
17 Gorffennaf 2015
Mae ystadegau sydd wedi eu rhyddhau gan yr Asiantaeth Cyrchfannau Ymadawyr Addysg Uwch yn dangos bod 94% o israddedigion YRhB yn gweithio neu’n ymgymryd ag astudiaethau pellach neu’r ddau, 13 pwynt canran yn uwch na llynedd.
Cyfartaledd y Deyrnas Unedig ar gyfer graddedigion busnes a gweinyddu yw 89.4%, sydd yn rhoi Ysgol Rheolaeth a Busnes Aberystwyth 5.6 pwynt canran yn uwch na’r cyfartaledd cenedlaethol.
Perfformiodd Prifysgol Aberystwyth yn dda iawn ar y cyfan, gyda 91% o raddedigion yn gweithio neu’n ymgymryd ag astudiaethau pellach chwe mis ar ôl gadael y Brifysgol; mae cyfradd cyflogadwyedd graddedigion wedi cynyddu 9 pwynt canran eleni a disgwylir iddo godi ymhellach wrth i’r Brifysgol dyblu buddsoddiad mewn cyflogadwyedd yn ystod y ddwy flynedd diwethaf.
Mae’r Arolwg Cyrchfannau Ymadawyr Addysg Uwch (DLHE) yn gofyn ymadawyr addysg uwch yr hyn maent yn ei wneud chwe mis ar ôl graddio. Cwblhaodd tua thri chwarter o ymadawyr yr arolwg.
Cliciwch yma i ddarllen mwy am hanesion ein graddedigion diweddar ar ôl gadael Aberystwyth.