Llwyddiant i fyfyrwyr Marchnata Aberystwyth yn y Senedd
![Tîm Prifysgol Aberystwyth (chwith i'r dde) Marc Diaper, Sophie Killer a Freya Boissonade](/cy/abs/news/top-stories/02---Brolio-The-Pitch-winners-Team-Aberystwyth-University.jpg)
Tîm Prifysgol Aberystwyth (chwith i'r dde) Marc Diaper, Sophie Killer a Freya Boissonade
18 Mehefin 2015
Mae tîm o fyfyrwyr o Brifysgol Aberystwyth wedi creu argraff ar banel o farchnatwyr mwyaf blaenllaw Cymru ddoe '(10 Chwefror) i gael eu coroni'n bencampwyr cystadleuaeth Brolio / The Pitch eleni, a drefnwyd gan CIM (Y Sefydliad Marchnata Siartredig).
Teithiodd Freya Boissonade a Marc Diaper sy'n astudio Marchnata, a Sophie sy'n astudio Marchnata gyda Ffrangeg i'r Senedd a buont yn cystadlu yn erbyn rhai o brif dalentau creadigol Cymru i ennill y gystadleuaeth genedlaethol.