'Busnes yn y Bae' yn profi sgiliau craidd y gweithle
24 Tachwedd 2015
Wnaeth myfyrwyr blwyddyn olaf o'r Ysgol Rheolaeth a Busnes cael eu dewis i gymryd rhan mewn cystadleuaeth ‘Busnes yn y Bae’ ym Mhrifysgol Abertawe fel rhan o Wythnos Entrepreneuriaeth Fyd-eang.
Roedd y myfyrwyr yn wynebu cyfres o heriau dyfeisgar a gynlluniwyd i brofi eu sgiliau busnes, gan gynnwys 'Cyfathrebu' lle'r oedd angen i'r tîm i osod pabell mewn 30 munud gyda mwgwd dros eu llygaid. Sgiliau eraill a brofwyd oedd gwaith tîm, datrys problemau, trefniadaeth a meddwl yn greadigol.
Y rhai a gymerodd ran oedd myfyrwyr Cyfrifeg a Chyllid Hannah Alexander, Emma Caer a Ffion Clarke, Magdalena Jaworska sy'n astudio Economeg gyda Rheolaeth, a James Owen, sy'n astudio Economeg.
Dywedodd Megan Williams, Uwch Ddarlithydd mewn Cyfrifeg, a aeth gyda’r myfyrwyr,
"Me cyfleoedd megis 'Busnes yn y Bae' yn rhan hanfodol o'r profiad dysgu yn Ysgol Rheolaeth a Busnes Prifysgol Aberystwyth. Mae'n bwysig bod ein myfyrwyr yn gallu datblygu sgiliau busnes allweddol megis gwaith tîm a datrys problemau fel rhan o'u gradd ac yn fwy anffurfiol mewn cystadlaethau megis 'Busnes yn y Bae' fel eu bod yn graddio gyda set cyfannol o sgiliau a fynnir gan y cyflogwyr gorau. "