Partneriaeth Menter a Busnes
Chwith i'r dde: Dr Wyn Morris, Alun Jones, Yr Athro Tim Woods a Laura McSweeney yn arwyddo'r contract newydd
02 Chwefror 2020
Mae Ysgol Fusnes Aberystwyth wedi bod yn gweithio gyda Menter a Busnes ers 2015 i ddarparu modiwlau ôl-radd, wedi’u hachredu ar lefel 7 ar gyfer gweithwyr proffesiynol sy'n awyddus i ddatblygu eu sgiliau neu sy'n dymuno cynorthwyo eraill i ddatblygu eu busnesau.
Dywedodd Yr Athro Tim Woods, Dirprwy Is-Ganghellor Dysgu, Addysgu a Phrofiad Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth: “Rydym yn falch iawn o adnewyddu ein partneriaeth lwyddiannus gyda Menter a Busnes. Mae’r cydweithio sydd rhwng ein Hysgol Fusnes a Menter a Busnes bellach yn ei phumed flwyddyn ac yn parhau i gyfoethogi gyrfaoedd rheini sy’n ymgymryd â’r modiwlau hyn. Diolch i’r modiwlau a’r cymhwyster sy’n dilyn, mae gan weithwyr y cyfle i ddatblygu eu sgiliau arwain, cymell a mentora ymhellach o fewn eu swyddi a’u rhoi ar waith ar unwaith.”
Ychwanegodd Dr Wyn Morris, darlithydd yn Ysgol Fusnes Aberystwyth: “Rydym wrth ein boddau ein bod yn adeiladu ar y berthynas ragorol sydd rhyngom ni a Menter a Busnes. Mae’r rhaglenni yn agored i unigolion a busnesau fel ei gilydd ac yn golygu ein bod ni’n gallu ymgysylltu â busnesau a diwallu eu hanghenion hyfforddi gyda chymhwyster ffurfiol. Hoffwn ddiolch i Laura McSweeney, Rheolwr Partneriaethau Academaidd y Brifysgol, am ei gwaith diflino ar y bartneriaeth hon.”
Dywedodd Alun Jones, Prif Weithredwr Menter a Busnes: “Mae’r cytundeb newydd hwn yn rhoi sylfaen gadarn i ni adeiladu arni i’r dyfodol. Lansiwyd y bartneriaeth am y tro cyntaf yn 2015 oherwydd bod diffyg cyrsiau o’r fath yn bodoli yn y Gymraeg. Trwy gydweithio gyda Phrifysgol Aberystwyth ac arbenigwyr llawrydd, llwyddwyd i lunio cwrs heriol, ymarferol a defnyddiol. Mae’r trydydd cwrs, Arwain Newid, yn ychwanegiad lled ddiweddar ac un criw o fyfyrwyr sydd wedi ei gwblhau hyd yma, a bydd yr ail griw yn dechrau yn Ebrill 2020. Bydd myfyrwyr sy’n cwblhau’r tri modiwl yn gymwys i dderbyn Tystysgrif Ôl-radd llawn Prifysgol Aberystwyth.”
Mae bron i 70 o weithwyr wedi cwblhau’r modiwlau yng Nghymru hyd yma ac fe fydd tri sydd wedi cwblhau’r tri modiwl eleni yn gymwys ar gyfer y Dystysgrif Ôl-radd yn seremoni graddio’r Brifysgol yn haf 2020.