Ysgol Rheolaeth a Busnes ar y rhestr fer Ysgol Busnes y Flwyddyn
![Addysg Uwch y Times](/cy/abs/news/top-stories/Times-Higher-Ed-logo-400x327.png)
Addysg Uwch y Times
05 Tachwedd 2014
Roedd yr Ysgol Rheolaeth a Busnes ar restr fer gwobr ‘Ysgol Fusnes y Flwyddyn’ yng Ngwobrau Addysg y Times Higher 2014 ar 27 Tachwedd.
Cystadlodd yr Ysgol yn dda yn erbyn maes cryf ond cipiodd Prifysgol Salford y wobr yn y seremoni yng Ngwesty Grosvenor House yn Llundain.
Dywedodd Yr Athro Andy Henley, Cyfarwyddwr Athrofa Rheolaeth, Y Gyfraith a Gwyddor Gwybodaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth;
“Roedd hi’n gamp wych i fod ar y rhestr fer ac i weld enw’r Ysgol Rheolaeth a Busnes ar y sgrin fawr yn y seremoni ymysg enwau adnabyddus. Roedd yr enwebiad yn adlewyrchu gwaith caled ac ymrwymiad ein staff academaidd a gweinyddol dros y blynyddoedd diwethaf.”