Myfyrwyr Twristiaeth yn Ymweld â Hwb Antur Twristiaeth
20 Tachwedd 2015
Wnaeth fyfyrwyr Twristiaeth yr ysgol Rheolaeth a Rheoli Busnes ymweld â Cheudyllau Llechi Llechwedd yn ddiweddar, cartref yr enwog 'Zipworld' a 'Bounce Below'.
Ymwelodd y myfyrwyr twristiaeth antur y safle ym Mlaenau Ffestiniog lle cawsant eu trin â sgwrs gan Sean Taylor, cyfarwyddwr masnachol Zipworld, un o'r datblygiadau twristiaeth antur fwyaf llwyddiannus yn y byd yn y blynyddoedd diwethaf.
Ar ôl y sgwrs wnaeth rhai o'r myfyrwyr ymweld â gweithgaredd ‘Bounce Below’, drysfa o drampolinau mewn ceudyllau tanddaearol, datblygiad cyffrous a phoblogaidd arall.
Ym mhen eithaf antur esboniodd Simon Williams ddatblygiad y cyfleuster beicio mynydd lawr allt Antur Stiniog, a phwysigrwydd y gweithgareddau hyn i adfywio cymunedau lleol.