Canlyniadau DHLE 2014 a NSS 2015 yn dangos cyflogadwyedd uchel a boddhad mewn pynciau dysg
24 Awst 2015
Canlyniadau DHLE 2014 a NSS 2015 yn dangos cyflogadwyedd uchel a boddhad mewn pynciau dysg
Mae dadansoddiad trylwyr o ddata JACS o Arolwg Cyrchfannau Ymadawyr Addysg Uwch (DHLE) yn dangos bod 100% o raddedigion SMB a astudiodd Cyfrifeg a Chyllid, Economeg, Busnes a Rheolaeth, Marchnata a Rheoli Twristiaeth wedi mynd i gyflogaeth a / neu astudiaeth bellach o fewn 6 mis ar ôl graddio, gan adlewyrchu buddsoddiad yr ysgol mewn sgiliau cyflogadwyedd ei myfyrwyr.
Mae Arolwg Cenedlaethol Bodlonrwydd Myfyrwyr (NSS) 2015 yn dangos bod rhai meysydd pwnc SMB wedi sgorio’n uwch na'r cyfartaledd cenedlaethol ar gyfer ansawdd addysgu ac adborth.
Yn benodol dangosodd yr arolwg NSS bod myfyrwyr yn gwerthfawrogi’r cymorth astudio a roddir gan y tîm Economeg, a gafodd ei sgorio yn 5% yn uwch na'r cyfartaledd cenedlaethol.
Mae uchafbwyntiau eraill yn cynnwys Twristiaeth, Trafnidiaeth a Theithio, lle mae ansawdd yr addysgu yn 5% yn uwch na'r cyfartaledd cenedlaethol, mae sefydliad y cwrs yn 11 pwynt yn uwch na'r cyfartaledd cenedlaethol ac mae 96% o fyfyrwy yn credu bod eu sgiliau cyfathrebu wedi gwella, 10 pwynt yn uwch na'r cyfartaledd yn y sector .
Ar lefel adrannol wnaeth effeithiolrwydd darlithwyr am esbonio pwnc yn glir ei graddio'n uchel ar 84%, tra bod boddhad gydag adborth hefyd yn uwch na'r cyfartaledd cenedlaethol. Wnaeth boddhad gydag adnoddau ar gael i fyfyrwyr hefyd sgorio'n uchel.