Cyfleoedd i astudio dramor

Archwiliwch ddiwylliannau eraill, heriwch eich hun a chasglwch brofiadau a fydd yn helpu gyda'ch gyrfa.
Mae Prifysgol Aberystwyth yn cynnig cyfle oes i chi astudio, gwirfoddoli neu weithio mewn gwlad arall, am flwyddyn academaidd, semester sengl neu ychydig wythnosau yn y gwyliau.
Gall astudio yn un o'n prifysgolion partner gynnig persbectif newydd i chi ar eich pwnc a'r cyfle i ddyfnhau ac ategu'ch astudiaethau yn Aberystwyth. Gall yr amser a dreulir yn archwilio gwlad a diwylliant newydd hogi'ch sgiliau rhyngbersonol, gwella'ch gallu iaith, ac ehangu eich meddylfryd rhyngwladol.
Canfod ble allwch chi fynd yn fyfyriwr Theatr, Ffilm a Theledu.