O Gof: Dathlu gwaddol pedagogaidd Mike Pearson (1949-2022)

Hyd: Dydd Gwener Mai 19eg 2023 (yr hwyr) i ddydd Sadwrn Mai’r 20fed 2023(yr hwyr)
Wyt ti’n un o raddedigion Astudiaethau Perfformio ym Mhrifysgol Aberystwyth?
Oeddet ti’n un o fyfyrwyr Mike Pearson?
Rydym yn ymestyn gwahoddiad cynnes i chi ymuno mewn dathliad o waith Mike Pearson fel darlithydd, arweinydd gweithdai, ac fel athro Astudiaethau Perfformio.
Bydd y digwyddiad yn dod â chyn-fyfyrwyr a chydweithwyr Mike ynghyd i adlewyrchu ar ei ddulliau o addysgu a’u dylanwad, ac addysgeg unigryw’r radd Astudiaethau Perfformio, ac hefyd i ystyried gwaddol ei waith ar gyfer dyfodol addysgu perfformio ac o wneud perfformiadau.
Cynhelir y digwyddiad ar Fai 19 a 20 2023 (pm – pm) yn Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu ym Mhrifysgol Aberystwyth. Bydd y digwyddiad yn gyfle i goffau blwyddyn ers marwolaeth Mike, ac i nodi dyddodi’i bapurau i Lyfrgell Genedlaethol Cymru, tra hefyd yn rhan o ddathliadau pen-blwydd yr Adran yn 50 yn 2023.
Fe fyddai’n bleser gennym pe allwch ymuno â ni. Gallwch gadarnhau’ch presenoldeb:
Mae croeso i chi rannu’r gwahoddiad hwn.
Rydym yn edrych ymlaen at glywed gennych!
Heike Roms & Louise Ritchie