BA Drama ac Astudiaethau Theatr W401
Gwawr Loader
O dan adain tiwtoriaid cefnogol yr adran llwyddais i ddatblygu fel actor yn enwedig yn y modiwlau perfformio ar ddiwedd yr ail a’r drydedd flwyddyn a bu hyn yn help o mi ennill lle ar gwrs action uwchraddedig Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Erbyn hyn rwyf wedi cwblhau’r cwrs hwnnw ac yn gweithio fel actor proffesiynol.
Sarah Bickerton
Pan ddechreuais fy ngradd yn Aberystwyth nid oeddwn yn sicr pa agwedd o ddrama a theatr i ddewis fel gyrfa. Roedd y cyfle i ddewis amrywiaeth o fodiwlau e.e. actio, sgriptio, senograffi, a chyda cydbwysedd da o ddamcaniaeth ag ymarfer yn cyfrannu’n fawr at ddatblygiad fy nealltwriaeth o ddrama a theatr. Cefais fy mlas gyntaf o gyfarwyddo yn ystod yr ail flwyddyn wrth wneud y modiwl cyfarwyddo. Yn fy nhrydedd flwyddyn fe wnes i gyd-gyfarwyddo, dyfeisio a theithio darn o theatr mewn addysg. Gydag angor fawr y profiadau yma cefais ofal a chefnogaeth fy narlithwyr a darganfyddais fy mrwdfrydedd ar gyfer cyfarwyddo.
Ar ôl graddio teimlais fy mod i’n gallu camu allan i’r byd ‘real’ i barhau a’m siwrne dysgu. Ar ôl graddio fe wnes i gwblhau cwrs blwyddyn yn hyfforddi fel cyfarwyddwr theatr gyda Living Pictures a Sherman Cymru. Ers hynny dwi wedi bod yn gweithio gyda nifer o wahanol sefydliadau fel cyfarwyddwr llawrydd e.e. Theatr Genedlaethol Cymru, Sherman Cymru a Mess Up the Mess. Cefais Wobr Artist Sy'n Datblygu gan Theatr Iolo a dychwelais i Aberystwyth i weithio fel Cyfarwyddwr sy'n Datblygu i National Theatre Wales a Rimini Protokoll o’r Almaen. Dwi ar hyn o bryd yn gweithio fel Cynorthwyydd Llenyddol a Thiwtor i Theatr Ieuenctid Sherman Cymru, a dwi hefyd yn gweithio fel tiwtor i Brifysgol Morgannwg ac fel hyrwyddwraig drama mewn ysgolion.