Cyfleoedd Ôl-raddedig
Mae’r Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu yn cynnig amgylchedd ardderchog am astudiaethau uwchraddedig. Mae enw da rhyngwladol yr Adran am ei dysgu a’i hymchwil flaengar o safon uchel yn golygu bod Aberystwyth yn lle delfrydol i astudio am raddau Meistr a Doethuriaeth. Mae ei chymuned fywiog a mawr o uwchraddedigion yn cael ei gweld fel rhan allweddol o ragoriaeth ymchwil a dysgu’r Adran.
Pam astudio am ddoethuriaeth?
Cyfleoedd Ymchwil
Ariannu Eich PhD
Sut i Wneud Cais
Rydym yn falch iawn eich bod yn ystyried dod i Aberystwyth i ddilyn gwaith ôl-raddedig yn yr Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu. Rydym yn ymrwymedig i gynnig hyfforddiant ac addysg ôl-raddedig o safon uchel ar draws ein meysydd pwnc eang, a'r broses dderbyn yw’r cam cyntaf yn y broses hon.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau, mae croeso i chi gysylltu â ni ar unrhyw adeg yn ystod y broses ymgeisio.
Cyn gwneud cais ffurfiol, byddem yn eich cynghori'n gryf i anfon ymholiad cychwynnol atom. Anfonwch eich drafft amlinellol neu gynnig ac arwydd o'r arian ar gyfer yr ydych yn bwriadu gwneud cais amdani i'r Cydlynydd Ôl-raddedig Adrannol, Dr Jamie Medhurst (tftspgr@aber.ac.uk).
Dilynwch y 'Guidance on writing a PhD proposal for TFTS'.