Dr Ffion Jones

Dr Ffion Jones

Lecturer in Theatre and Theatre Practice

Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu

Manylion Cyswllt

Proffil

Penodwyd Ffion Jones ym mis Awst 2016 yn Ddarlithydd mewn Theatr Ymarferol. Mae’n addysgu ar draws ystod o fodiwlau mewn Drama a Theatr ac yn achlysurol ar gyfer y radd Dylunio i Theatr a Perfformio. Graddiodd o’r adran gyda’i BA mewn astudiaethau perfformio a Senograffeg (2007), MA mewn Perfformio Ymarferol (2008), a PhD ymarferol (2015). Mae hi hefyd yn gymrawd yr Academi Addysg Uwch. Mae ei hymchwil yn archwilio ffermio defaid ucheldir Cymru, gan archwilio natur gymhleth hunaniaethau ffermio trwy ffilm a pherfformiad safle-benodol. Mae ei hymchwil diweddar yn archwilio syniadau ynghylch ailwylltio o fewn ardaloedd diwylliannol sensitif Ucheldir Cymru; archwilio'r gwrthdaro rhwng arferion ffermio a stiwardiaeth amgylcheddol. Wedi’i magu ar fferm ddefaid ucheldirol Cymru, mae ei hymchwil yn cael ei llywio’n uniongyrchol a’i ‘ystyried’ ochr yn ochr â’i gwybodaeth am hwsmonaeth anifeiliaid, diwylliant ac arferion ffermio. Yn ddiweddar bu’n ymwneud â Merched Y Tir, grŵp amrywiol o ferched creadigol o Gymru sy’n archwilio natur eu perthynas â thir. Ar hyn o bryd mae’n ymwneud ag archwiliadau i’r newidiadau mewn cymunedau a thirweddau gwledig trwy’r rhwydwaith ymchwil, Narrating Rural Change, dan arweiniad yr Athro Kirsti Bohata o Brifysgol Abertawe.

Oriau Swydda (Amseroedd Cyswllt Myfyrwyr)

  • Dydd Mercher 11.00-12.00

Cyhoeddiadau

Jones, F 2022, 'Gendered, embodied knowledge within a Welsh agricultural context and the importance of listening to farmers in the rewilding debate', Area. 10.1111/area.12808
Jones, F, Ni Yw'r Ddiadell, 2019, Exhibition.
Jones, F 2019, 'Theatre Review: Nyrsys' Planet: The Welsh Internationalist, no. 233, pp. 77-80.
Jones, F 2018, 'Agricultural detritus and artistic practices: Reflections on animating heritage and reclaiming place-specific narratives', Performance Research, vol. 22, no. 8, 14, pp. 115-126. 10.1080/13528165.2017.1433390
Jones, F 2017, 'Brexit: what next for Welsh agriculture?' Planet: The Welsh Internationalist, no. 228, pp. 8-17. <https://www.planetmagazine.org.uk/planet-online/228/What-next-for-Welsh-Agriculture>
Mwy o gyhoeddiadau ar y Porth Ymchwil