Themâu a Phrosiectau Ymchwil
Gweler isod wybodaeth ynglŷn â themâu a phrosiectau Ymchwil yr Adran.
Mae ein staff yn cymryd rhan mewn ystod eang o feysydd ymchwil, gan gynnwys perfformio safle-benodol; perfformio a’r gymdeithas wledig; senograffeg perthynol a’r beunyddiol; gofod; lle a thirlun mewn ffilm a theledu Cymreig; theatr a pherfformiadau Cymraeg; hanes darlledu; y cyfryngau a chymdeithas yng Nghymru; y cyfryngau, perfformio a chwaraeon; perfformio a phensaernïaeth; dawns ac anabledd; ysgrifennu dramâu; theatr a'r cyfryngau newydd; estheteg teledu cyfoes a diwylliant cyfogwydd; estheteg ffilm arbrofol cyfoes; ecoleg a materolrwydd newydd. Rydym yn cydweithio ag artisitiad, cwmnïau theatr, gwyliau ffilmiau a'r celfyddydau, cwmnïau cynhyrchu, sefydliadau amgylcheddol, archifau, darlledwyr a gwneuthurwyr polisi.