Lansiwyd Y Ganolfan Meddwl yn Faterol ym mis Tachwedd 2021 (gyda darlith agoriadol gan yr Athro Carrie Noland o Brifysgol California, Irvine). Wedi’i lleoli yn yr Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu ac yn cael ei chyd-arwain gan Dr Kim Knowles a Miranda Whall, mae’n dod â sawl llinyn ymchwil allweddol ynghyd o'r Adran ei hun ac ar draws Cyfadran y Celfyddydau a'r Gwyddorau Cymdeithasol.
Nod y Ganolfan yw ysgogi ymchwil ryngddisgyblaethol sy'n ymgorffori cwestiynau ar fateroldeb, mater a chreu. Mae’n canolbwyntio ar yr adymdroad materol diweddar ym maes disgyblaethau academaidd ac ymarfer artistig, sydd wedi arwain at ffyrdd newydd o feddwl am y byd ac uniaethu ag e. O'n harferion o ran defnyddio a thaflu, defodau cymdeithasol a'n lliwiau gwleidyddol, i'n technegau cynrychiolaeth a dulliau cynhyrchu, pennir ymddygiad dynol yn ôl gwe gymhleth o gydberthnasau ffisegol. Mae'r pandemig Covid-19 wedi dod â nifer o gysylltiadau materol i'r amlwg a oedd yn cael eu cymryd yn ganiataol neu'n cael eu hanwybyddu'n llwyr cyn hynny. Mae cwestiynau ynghylch gofod a lle, cyfathrebu ac addysg, ecoleg a’r amgylchedd yn awr yn cael eu hailasesu o safbwyntiau gwahanol.
Mae'r Ganolfan (CMT) yn ymddiddori mewn canfod atebion creadigol i’r cwestiynau hyn, drwy fynd ar drywydd amrywiaeth o ffyrdd damcaniaethol ac ymarferol o archwilio arwyddocâd materoldeb yn y cyd-destun cyfoes. Sut yr ydym ni’n creu ystyr o fater, a sut mae drysiant materol yn dylanwadu ar y ffordd yr ydym yn byw yn y byd? Sut all ffyrdd newydd o gynrychiolaeth creu mwy o ymwybyddiaeth o broblemau bydol ac argyfyngau ecolegol y mae rhaid i ni fynd i'r afael â hwy yn rhan o’n bywydau bob dydd? Pa ran y gall y celfyddydau a'r dyniaethau ei chwarae wrth gyfathrebu goblygiadau ehangach materoldeb o safbwynt cymdeithasol a gwleidyddol? Pa ffyrdd newydd o ddeall sy'n cael eu creu drwy ymchwilio i'r materol a'r ffisegol, y dynol a'r annynol? Mae'r cwestiynau hyn yn awgrymu bod cydnabod y paradeim dyneiddiwr traddodiadol yn annigonol ar gyfer ein dyddiau ni, a bod angen gwell dealltwriaeth o'r hyn y mae Jane Bennett yn ei alw'n 'fater bywiog' er mwyn sefydlu ffyrdd o fwy sy'n fwy moesegol.
Ewch i wefan y Ganolfan i gael rhagor o wybodaeth am ein prosiectau ymchwil, digwyddiadau’r gorffennol a’r dyfodol, a chomisiynau artistiaid parhaus: www.materialthinking.net
Neu e-bostiwch material-thinking@aber.ac.uk os hoffech gysylltu a ni.