Ail-edrych ar lenyddiaeth Gymraeg drwy lens LHDTC+

10 Hydref 2024

Mae academyddion yn Aberystwyth yn awyddus i roi llwyfan i leisiau anghofiedig yn llenyddiaeth LHDTC+ y Gymraeg mewn ymgais i osod eu gwaith ochr yn ochr â gweithiau eraill y canon llenyddol.

Mae ‘Testunau’r Enfys’ yn brosiect arloesol a fydd yn edrych ar gynrychiolaeth a hunaniaethau LHDTC+ mewn llenyddiaeth Gymraeg, a’u cyfoethogi, gan ysgogi ymchwil newydd, a chynorthwyo a mentora pobl i greu gweithiau newydd yn y maes. 

Mae’r prosiect cydweithredol, mewn partneriaeth ag academyddion ym Mhrifysgolion Bangor a Chaerdydd, wedi’i ariannu gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Ar 20 Medi, daeth academyddion ac ymarferwyr creadigol ynghyd yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru i edrych ar lenyddiaeth hanesyddol a chyfoes y Gymraeg trwy lens LHDTC+ i roi sylw i weithiau anghofiedig a gweithiau sydd heb gael sylw dyledus yn y gorffennol.

Bydd y darganfyddiadau newydd o’r gweithdy yn cael llwyfan yng nghynhadledd ‘Testunau’r Enfys’, a gynhelir yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru ym mis Gorffennaf 2025.

Mae Dr Cathryn A. Charnell-White o Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd yn un o drefnwyr y prosiect:

“Rydym yn gyffrous i lansio'r prosiect hwn gan fod edrych o'r newydd ar ein llenyddiaeth drwy lens LHDTC+ yn cynnig llawer o botensial i dorri tir newydd ac i feithrin amrywiaeth a chynwysoldeb yn y maes.

“Un o'm hoff enghreifftiau yw cerdd am gyfeillgarwch rhwng dwy ferch o’r unfed ganrif ar bymtheg, sy'n cynnig dehongliadau newydd a diddorol o'i darllen hi drwy lens LHDTC+.”

Mae Dr Gareth Llŷr Evans, Darlithydd mewn Theatr a Pherfformio yn yr Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu ym Mhrifysgol Aberystwyth hefyd yn rhan o dîm y prosiect:

“Wrth gychwyn y prosiect, mae eisoes yn amlwg bod corff sylweddol o lenyddiaeth cwiar yn bodoli yn y Gymraeg, boed y rheini yn gyfrolau sy’n mynegi hunaniaethau a phrofiadau cwiar yn uniongyrchol, neu’n rai sy’n addas i gael eu dehongli trwy ddarlleniad cwiar. Mae yma gyfle felly i gydnabod yr amrywiaeth o leisiau sydd eisoes yn datgan eu hunaniaethau yn agored a gyda balchder, gan hefyd roi cyfle i ailystyried lleisiau hanesyddol a fynegodd yr un profiadau mewn ffyrdd oedd efallai llawer mwy cynnil.”

Un o amcanion eraill y prosiect yw creu cymuned o academyddion ac ymarferwyr creadigol ym maes llenyddiaeth LHDTC+ y Gymraeg er mwyn adeiladu arbenigedd yn y maes.

Meddai Emily Pemberton, Cydlynydd Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Gwrth-hiliaeth y Coleg Cymraeg Cenedlaethol:

“Mae ariannu a chefnogi’r prosiect yma yn bwysig ac yn cyd-fynd â strategaeth cydraddoldeb ac amrywiaeth y Coleg i sicrhau bod addysg uwch cyfrwng Cymraeg yn gynhwysol ac yn adlewyrchu profiadau’r gymuned gyfan. Mae’r prosiect yma yn hynod o gyffrous gan y bydd yn creu ymchwil a chymuned newydd o ymchwilwyr yn y maes llenyddol LHDTC+ Cymraeg a fydd y cyfoethogi addysg myfyrwyr yn y pendraw.”

Cymryd Rhan

Mae tîm prosiect ‘Testunau’r Enfys’ yn dymuno datblygu’r maes yn gyffredinol drwy feithrin ymchwilwyr newydd a phrofiadol, a thrwy archwilio ystod o archifau. Mae tîm y prosiect yn annog ymarferwyr creadigol ac academyddion sy'n ymddiddori yn y pwnc i gysylltu â nhw i rannu eu harbenigedd, ac i ddod i'r gynhadledd a gynhelir 5 Gorffennaf 2025.

Gellir mynd i wefan y Coleg am wybodaeth bellach.