Y Flwyddyn Sylfaen
Cynlluniwyd eich Blwyddyn Sylfaen i’ch cyflwyno i’r wybodaeth a’r sgiliau y bydd arnoch eu hangen er mwyn dilyn cwrs gradd yn Aberystwyth. Byddwch yn astudio gyda myfyrwyr sydd wedi dewis yr un pwnc â chi, yn ogystal â myfyrwyr eraill sy’n astudio cwrs blwyddyn sylfaen integredig mewn pynciau eraill yn y Dyniaethau, y Gwyddorau Cymdeithasol neu’r Gwyddorau Naturiol.
Mae’r rhaglen Sylfaen yn addas:
- Os nad ydych yn gallu bodloni’r gofynion mynediad arferol ar gyfer cynllun tair blynedd
- Os ydych yn ansicr ynghylch beth i’w astudio a bod arnoch eisiau cael blas ar wahanol bynciau
- Os ydych wedi bod allan o fyd addysg ers tro ac yn dymuno dychwelyd.
Bydd y Flwyddyn Sylfaen yn Aberystwyth yn rhoi cyflwyniad eang ichi i syniadau, damcaniaethau a chysyniadau sylfaenol ledled y dyniaethau a’r gwyddorau cymdeithasol. Fe’i cynlluniwyd i’ch galluogi i brofi a myfyrio ar brofiadau dysgu trawsddisgyblaethol; i ddatblygu eich sgiliau rhesymu beirniadol; ac i wella eich sgiliau cyfathrebu. Mae’r Flwyddyn Sylfaen yn cyflwyno myfyrwyr i’w dewis gynllun gradd yn ystod y semester cyntaf, cyn rhoi blas ar fodiwlau’r pwnc yn yr ail semester.
Os ydych yn fyfyriwr yn y Dyniaethau (Saesneg, Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu, Hanes a Hanes Cymru) neu’n fyfyriwr yn y Gwyddorau Cymdeithasol (Cysylltiadau Rhyngwladol, Daearyddiaeth, Daearyddiaeth Ddynol, Cymdeithaseg, y Gyfraith, Troseddeg, Addysg), byddwch yn astudio modiwlau craidd a fydd yn rhoi cyfle ichi archwilio themâu allweddol sy’n gysylltiedig â’ch dewis gwrs gradd a hynny o safbwynt rhyngddisgyblaethol.
Os ydych yn fyfyriwr yn y Gwyddorau Naturiol (Daearyddiaeth Ffisegol, Gwyddor yr Amgylchedd, Gwyddor Daear Amgylcheddol), bydd gennych fodiwlau craidd a modiwlau dewisol. Bydd eich modiwlau craidd yn eich cyflwyno i hanfodion astudio’r byd naturiol a byddant yn cynnwys gwaith maes yn yr ardal leol. Fe’ch cyflwynir i gysyniadau rheoli’r amgylchedd trwy ymchwiliadau maes yn nyffryn Ystwyth, afon Rheidol ac arfordir Aberystwyth. Byddwch hefyd yn astudio modiwlau a fydd yn rhoi ichi’r sgiliau y bydd arnoch eu hangen er mwyn cyfleu syniadau mewn cyd-destun academaidd.
Mae’r cynlluniau isod bellach yn cynnig cwrs Sylfaen Integredig:
- Addysg (X30F)
- Amaethyddiaeth (H21F)
- Amaethyddiaeth gyda Gwyddor Anifeiliaid (53CF)
- MAG Amaethyddiaeth gyda Gwyddor Anifeiliaid (D4DF)
- Amaethyddiaeth gyda Rheoli Busnes (D4NF)
- Astroffiseg (F512)
- Bioleg (C101)
- MBIOL Bioleg (C09F)
- Bioleg a Newid Hinsawdd (FC7F)
- Bioleg Planhigion (gyda blwyddyn integredig mewn diwydiant) (C20F)
- Bioleg y Mor a Dŵr Croyw (C16F)
- MBIOL Bioleg y Môr a Dŵr Croyw (C06F)
- Bioleg Planhigion (C201)
- Biowyddor Ceffylau a Milfeddygol (D33F)
- MBIOL Biocemeg (C79F)
- Busnes a Rheloaeth (N12F)
- Cyfrifeg a Chyllid (N40F)
- Cyfrifiadureg (G40F)
- Cyllid Busnes (N31F)
- Cysylltiadau Rhyngwladol a Hanes Milwrol (F2VL)
- Cysyllitadau Rhyngwladol (F42L)
- Daearyddiaeth (F80F)
- Daearyddiaeth Ddynol (L70F)
- Daearyddiaeth Ffisegol (F84F)
- Drama a Theatr (W40F)
- Ecoleg (C18F)
- Economeg (L10F)
- Economeg Busnes (L11F)
- Ffilm a Theledu (W62F)
- Ffiseg (F301)
- Geneteg a Biocemeg (CC4F)
- Geneteg (C40F)
- Gwyddor Daear Amgylcheddol (F64F)
- Gwyddor Iechyd (Maeth ac Ymarfer Corff) (B996)
- Gwyddor yr Amgylchedd (F75F)
- Hanes (V10F)
- Llenyddiaeth Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol (QW3F)
- Marchnata (N50F)
- Mathemateg (G10F)
- Mathemateg Gyllidol (G1NF)
- Microbioleg (C501)
- MBIOL Microbioleg (C59F)
- Peirianneg Drydanol ac Electronig (163F)
- Seicoleg (C80F)
- Technoleg Gwybodaeth Busnes (G50F)
- Troseddeg (M90F)
- Y Gyfraith (M10F)
Byddwch yn astudio modiwlau fydd yn cyflwyno cynnwys academaidd eich pwnc, a byddwch yn meithrin sgiliau eraill fydd yn eich hyfforddi i lwyddo yn eich gradd Anrhydedd. Yn eu plith y mae:
- Sgiliau TGCh yn y brifysgol
- Ysgrifennu academaidd i fyfyrwyr
- Modiwlau profiad dysgu i’ch cyflwyno i gysyniadau allweddol y pynciau a gynigir yn eich Adran
- Cyfle i brofi rhai o’r pynciau eraill a gynigir ar y rhaglen Blwyddyn Sylfaen
Dysgir trwy gyfrwng cyfuniad o ddarlithoedd, seminarau, a sesiynau datblygu personol fydd yn rhoi’r hyder a’r profiad ichi ragori yn academaidd. Bydd eich tiwtor personol ac arweinydd y Flwyddyn Sylfaen yn eich helpu i bontio i Lefel 1.
Yr un yw’r cyllid a’r benthyciadau myfyrwyr sydd ar gael i chi ag ar gyfer israddedigion eraill, a gallwch wneud cais am le trwy UCAS yn yr un modd â gweddill ein graddau israddedig.
Nodir y gofynion mynediad isod, ond bydd pob ymgeisydd yn cael ei asesu’n unigol i wneud yn sicr eu bod yn iawn ar gyfer y cwrs a bod y cwrs yn iawn iddyn nhw.
Mae gan fyfyrwyr sy’n astudio cwrs blwyddyn sylfaen hawl i ddefnyddio holl gyfleusterau’r campws, i ymuno â’r cymdeithasau a phob dim arall sydd gan gymuned myfyrwyr Aberystwyth i’w gynnig.