Seicoleg
Beth fydda i'n ennill o'm pwnc?
Mae myfyrwyr Seicoleg yn amryddawn ac yn tueddu i fod yn chwilfrydig, yn ddadansoddol ac yn hapus wrth ymdrin â materion 'darlun mawr' yn ogystal â manylion. Trwy astudio seicoleg rydych yn meithrin ystod eang o sgiliau sy'n rhychwantu’r gwyddorau a’r celfyddydau, ac sy’n cynnig cyfleoedd gydag amrywiaeth eang o gyflogwyr.
Dyma rai sgiliau byddwch yn ennill yn ystod eich cwrs y mae cyflogwyr yn eu gwerthfawrogi:
- Sgiliau Cyfathrebu (ysgrifenedig a llafar)
- Sgiliau ymchwil
- Sgiliau dadansoddi, casglu data a datrys problemau
- Ymwybyddiaeth foesegol
- Gwaith tîm ac ymwybyddiaeth o brosesau grŵp
- Arweinyddiaeth
- Llunio adroddiadau
- Dehongli a gwerthuso digwyddiadau, gwybodaeth a syniadau
- Rheoli amser a sgiliau trefnu
- Bod â meddwl agored
Beth alla i ei wneud gya'm pwnc?
Mae graddedigion Seicoleg yn rhagori mewn swyddi lle y mae’n rhaid iddynt ymdrin ag ystod o faterion cymhleth a datblygu dealltwriaeth drylwyr am feysydd a allai fod yn newydd iddynt mewn cyfnod cymharol fyr. Dyma rai o’r meysydd posibl:
- Hysbysebu/marchnata
- Bancio ac yswiriant
- Rheoli Busnes
- Gwaith Elusennol
- Addysg
- Meysydd sy'n ymwneud ag iechyd
- Llywodraeth leol a chenedlaethol
- Ymchwil y farchnad
- Y Cyfryngau
- Gweinyddu (e.e. Cynorthwyydd Personol)
- Gwleidyddiaeth
- Adwerthu a gwerthu
Opsiynau Swydd (proffesiynau siartredig - sy'n gofyn am astudiaeth ôl-radd):
- Seicolegydd clinigol
- Seicolegydd cwnsela
- Seicolegydd Addysg
- Seicolegydd Fforensig
- Athro addysg bellach
- Seicolegydd iechyd
- Seicolegydd galwedigaethol
- Gweithiwr iechyd meddwl graddedig - gofal sylfaenol
- Seicolegydd chwaraeon ac ymarfer corff
Opsiynau Swydd (sy'n berthnasol i'ch gradd):
- Cynllunydd cyfrifon hysbysebu
- Gweithiwr cynghori
- Cynghorydd Gyrfaoedd
- Cwnselydd
- Swyddog adnoddau dynol
- Ymchwilydd i’r farchnad
- Seicotherapydd
Mae'r rhan fwyaf o gyflogwyr yn derbyn ceisiadau gan raddedigion unrhyw bwnc gradd, felly peidiwch â chyfyngu eich hun i’r swyddi a restrir yma. Ystyriwch eich cryfderau ac edrychwch ar y proffiliau swydd i weld a yw’r swyddi hyn yn addas ar eich cyfer a sut y gallech ddatblygu'r sgiliau a/neu’r wybodaeth angenrheidiol.
Profiad Gwaith
Mae'n syniad da adeiladu eich profiad gwaith cyn gynted ag y gallwch. Gall gweithio ar sail wirfoddol yn gyntaf eich helpu i gael profiad, ond mae hefyd yn werth gwneud cais am interniaethau, lleoliadau gwaith dros yr haf, a gwaith yn cysgodi rhywun tra’ch bod yn y brifysgol. Os oes gennych ddiddordeb mewn swyddi Siartredig, yna mae'n bwysig cael profiad gwaith perthnasol. Ceir isod adnoddau defnyddiol ar gyfer dod o hyd i brofiad gwaith sy'n ymwneud â seicoleg.
Astudiaethau pellach
Mae hyfforddiant ac astudiaethau ôl-radd yn ofyniad i fod yn seicolegydd siartredig. Oherwydd gofynion mynediad y cwrs, mae llawer o raddedigion seicoleg yn treulio blwyddyn neu fwy yn cael profiad gwaith cyn cychwyn ar eu hastudiaethau ôl-radd. Gall graddedigion seicoleg hefyd ddewis ymgymryd â chymhwyster ôl-radd mewn meysydd gyrfaol eraill, e.e. addysgu, hysbysebu, marchnata neu Adnoddau Dynol. I gael rhagor o wybodaeth am astudiaethau pellach ac i ddod o hyd i gwrs sydd o ddiddordeb i chi, gweler graddau Meistr a chwilio am gyrsiau ôl-raddedig.
Adnoddau Defnyddiol
- NHS Careers
- NACRO
- Canolfan Cyngor ar Bopeth
- Relate
- Charity Job
- Charity People
- British Medical Journal
- BMJ Mental Health
- Gyrfaoedd ym maes Seicoleg
- Health & Care Professions Council (HCPC)
Cymdeithasau a chyrff proffesiynol
Mae’r cyrff hyn yn hyrwyddo buddiannau pobl sy’n gweithio mewn proffesiynau penodol. Mae rhai yn cynnwys rhestrau o gyflogwyr sy’n aelod o’r gymdeithas dan sylw, ac mae’n bosib y byddant yn hysbysebu swyddi. Gall eraill fod yn ffynhonnell wybodaeth ddefnyddiol wrth ymchwilio i gyflogwyr ar gyfer ceisiadau neu os ydych yn ystyried cyflwyno cais ar hap.
- Cymdeithas y Seicolegwyr Addysg
- Cymdeithas Cwnsela a Seicotherapi Prydain
- Cymdeithas Seicolegol Prydain
Beth mae graddedigion Aber yn ei wneud?
Mae dwy ran o dair o raddedigion seicoleg Aber mewn swyddi neu’n ymgymryd ag astudiaethau pellach o fewn chwe mis ar ôl graddio, sy’n uwch na’r cyfartaledd ar gyfer y DU. Maent yn mynd ymlaen i gael amrywiaeth eang o yrfaoedd mewn meysydd amrywiol. Cymerwch olwg isod ar yr hyn y mae graddedigion ac ôl-raddedigion seicoleg Aberystwyth yn mynd ymlaen i’w wneud.
- Cydlynydd Gweithgareddau
- Cynorthwyydd Dysgu Anghenion Arbennig
- Cynorthwyydd Marchnata
- Cynorthwyydd Ymchwil
- Dadansoddwr Cyswllt (Mewnfudiad)
- Gweinyddwr
- Gweithiwr Addysg Breswyl
- Gweithiwr Cymorth
- Gweithiwr Cymorth Myfyrwyr
- Gweithiwr Gofal Therapiwtig
- Gweithredwr Datblygu Cyfrif Busnes
- Gweithredwr Gwasanaeth Cwsmeriaid
- Hyfforddai Masnachol
- Myfyriwr Graddedig dan Hyfforddiant
- Oedolyn Priodol
- Partner Trosglwyddo Gwybodaeth
- Rheolwr Cleientiaid
- Rheolwr Cynadleddau Graddedig
- Seicolegydd Chwaraeon (Lleoliad Lefel 1)
- Seicolegydd Clinigol Cynorthwyol
- Seicolegydd Cynorthwyol
- Swyddog Cyfathrebu Corfforaethol
- Swyddog Datblygu
- Tiwtor Dadansoddi Ymddygiad Cymhwysol (ABA) dan Hyfforddiant
- Ymchwilydd
- Ymgynghorydd Gwasanaeth Cwsmeriaid
Enghreifftiau o'r cyflogwyr yr aeth graddedigion ac uwchraddedigion seicoleg Aberystwyth i weithio iddynt:
- Age Cymru
- Alliance Boots
- Amryw Ysgolion, Colegau a Phrifysgolion
- Baschruch Care
- Canolfan IMAP
- Care UK
- Cartrefi Cymru
- Chester Therapy Centre
- Debenhams
- Gwasanaeth Iechyd Gwladol
- Heddlu West Mercia
- Next
- Premier Healthcare Solutions
- Sainsburys
- Swyddfa Gartref
- Young Epilepsy