Rheolaeth a Busnes

Beth fydda i’n ennill o’m pwnc?

Yn ogystal â’ch sgiliau sy’n seiliedig ar ymarfer, a’r wybodaeth y byddwch yn ei dysgu, bydd eich gradd yn darparu amrywiaeth o sgiliau trosglwyddadwy y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt.   Mae’r sgiliau trosglwyddadwy yn cynnwys datrys problemau, hunan-reoli, cyfathrebu a gwaith tîm. Mae eich sgiliau trosglwyddadwy a’r lefel o gyrhaeddiad deallusol a enilloch drwy astudio eich pwnc yn golygu y bydd gennych lawer o wahanol ddewisiadau gyrfa pan fyddwch yn graddio. Mae canran uchel o’r holl swyddi gwag lefel gradd yn agored i raddedigion unrhyw ddisgyblaeth, ac eto nid yw llawer o fyfyrwyr yn ymwybodol o hyn, neu cânt eu dylanwadu gan ffeithiau di-sail ynglŷn â’r dewisiadau sydd ar gael iddynt.

Beth alla i ei wneud gyda’m pwnc?

Mae eich gradd yn eich paratoi ar gyfer amrywiaeth eang o lwybrau gyrfaol.

Mae nifer fawr o bosibiliadau’n agored i raddedigion, mwy o bosibl nag a sylweddolwch ar y cychwyn. Weithiau, y gwaith anoddaf sy’n wynebu myfyrwyr ar eu blwyddyn olaf a graddedigion newydd yw penderfynu sut i ddewis o blith y dewisiadau niferus sydd ar gael i chi. Ceir swyddi sy’n ymwneud yn uniongyrchol â phynciau gradd, swyddi lle gall pynciau penodol fod yn ddefnyddiol a hefyd ystod gyflawn o swyddi sy’n agored i raddedigion mewn unrhyw ddisgyblaeth.

Pa gymorth sydd ar gael?

Mae gennych Ymgynghorydd Gyrfaoedd penodedig sy’n gweithio’n agos â’ch adran i ddarparu cymorth, cyngor a gwybodaeth. Cynhelir gweithdai a digwyddiadau gyrfaoedd yn eich adran i hyrwyddo cyfleoedd profiad gwaith, eich helpu i gynllunio’ch gyrfa, ac sydd hefyd yn gyfle i rwydweithio gyda phobl broffesiynol sy’n gweithio yn y diwydiannau creadigol. Cyflwynir rhaglen addysg gyrfaoedd yn ganolog hefyd, a gall uwchraddedigion fanteisio ar y rhaglen Hyfforddi Sgiliau Uwchraddedig. Mae croeso i chi alw heibio’r Gwasanaeth Gyrfaoedd unrhyw bryd i gael cymorth neu wybodaeth bellach.

Ble ydw i’n dechrau chwilio am brofiad gwaith a swyddi i raddedigion? – Adnoddau defnyddiol

Mae’r dolenni isod yn fan cychwyn i chi pan fyddwch yn chwilio am gyfleoedd sy’n ymwneud yn uniongyrchol â’ch pwnc; mae mwy o adnoddau cyffredinol ar gael yn ein hadran profiad gwaith. Cofiwch fod cymorth ar gael oddi wrth y Gwasanaeth Gyrfaoedd pan fyddwch yn gwneud cais am swyddi a phrofiad gwaith.

 

DU

Cymdeithasau a chyrff proffesiynol

Mae'r cyrff hyn yn hyrwyddo diddordebau pobl sy'n gweithio mewn galwedigaethau penodol. Mae gan rai ohonynt restrau o gyflogwyr sy'n aelodau o'r gymdeithas ac a allai hysbysebu swyddi tra bod eraill yn ffynonellau defnyddiol o wybodaeth wrth ymchwilio i gyflogwyr ar gyfer gwneud ceisiadau neu ystyried ceisiadau ar hap.

Beth mae graddedigion Aber yn ei wneud?

Dyma rai enghreifftiau o swyddi a gafwyd gan ein Graddedigion:

  • Archwiliwr Cynorthwyol
  • Athro/Athrawes
  • Cydlynydd Marchnata
  • Cyfreithiwr Cynorthwyol
  • Cyfrifydd
  • Cyfrifydd Ariannol Cynorthwyol
  • Cyfrifydd Costau
  • Cyfrifydd dan Hyfforddiant
  • Cyfrifydd Graddedig dan Hyfforddiant
  • Cyfrifydd Siartredig dan Hyfforddiant
  • Cyhoeddwr Cylchgrawn
  • Dadansoddwr
  • Dadansoddwr Cyllid Graddedig
  • Dadansoddwr Cynllunio
  • Dadansoddwr Data Gwybodaeth Busnes
  • Dadansoddwr Prisio
  • Dadansoddwr y Farchnad
  • Dadansoddwr y Farchnad (Graddedig dan Hyfforddiant)
  • Dadansoddwr Ymchwil
  • Dadansoddwr Ymchwil Marchnad
  • Darlithydd
  • Datblygwr Meddalwedd
  • Gweithredwr Datblygu Busnes
  • Gweithredwr Datblygu Cyfrif
  • Gweithredwr Gwerthiant
  • Gweithredwr Hysbysebu
  • Gweithredwr Marchnata
  • Gwerthwr Siopau
  • Hyfforddedig Logisteg Graddedig
  • Hyfforddedig Trethi
  • Masnachwr (Cwmni Cyllid)
  • Prynwr Olew dan Hyfforddiant
  • Rheolwr Brand a Digwyddiadau
  • Rheolwr Cwsmeriaid (Graddedig dan Hyfforddiant)
  • Rheolwr Cyfrifon
  • Rheolwr Cyllid - Buddsoddi Cyfalaf
  • Rheolwr Cynorthwyol, Adran Pwrcasu
  • Rheolwr dan Hyfforddiant Graddedig
  • Rheolwr Graddedig dan Hyfforddiant
  • Rheolwr Gwasanaethau Masnachol
  • Rheolwr Gwesty
  • Rheolwr Marchnata a Chyfathrebu
  • Rheolwr Masnachol Graddedig
  • Rheolwr Masnach Rhyngwladol
  • Rheolwr Prosiect Marchnata Ewropeaidd
  • Swydog Bancio Preifat
  • Swyddog Cyllid
  • Swyddog Datblygu'r Iaith Gymraeg
  • Swyddog Gweithredol Uwch
  • Swyddog yn y Fyddin
  • Trefnydd Gweithgareddau
  • Ymgynghorydd Busnes
  • Ymgynghorydd Graddedig
  • Ymgynghorydd Recriwtio
  • Ymgynghorydd Ynni

Enghreifftiau o'r cyflogwyr yr aeth graddedigion ac uwchraddedigion rheolaeth a busnes Aberystwyth i weithio iddynt:

  • Amryw Gynghorau Sir
  • Amryw Sefydliadau Addysg Uwch
  • Amryw Ysgolion
  • AXA
  • Bank of America
  • Barclays
  • Beckles Investment Services
  • Bennets of Malvern
  • BT
  • BNP Paribas
  • Canolfan Mileniwm Cymru
  • Carlsberg
  • CFFI Wales
  • Champion Accountants
  • Cobra Group
  • Coleg Prifysgol Harper Adams
  • Commerz Bank
  • Corus
  • Cymdeithas Adeiladu'r Principality
  • Davies and Lewis Accountants
  • Debenhams
  • Esso
  • First Choice
  • Grant Thornton
  • Gwasanaeth Iechyd Gwladol
  • Heddlu Llundain
  • HSBC
  • KPMG
  • Llu Awyr Brenhinol
  • Llyfrgell Genedlaethol Cymru
  • Machbrook Cyf
  • Morrisons
  • National Express
  • Network Rail
  • Newmans a Phartneriaid
  • Nwy Prydain
  • Post Brenhinol
  • PricewaterhouseCoopers
  • Prifysgol Aberystwyth
  • Promar International
  • Reckitt Banckiser plc
  • Royal Bank of Canada
  • Royal Bank of Scotland
  • Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig
  • Tesco
  • Unilever
  • Virgin Mobile
  • WH Smiths
  • Whittingham Riddell LLP
  • Yr Heddlu