Mathemateg

Beth fydda i’n ennill o’m pwnc?

Mae’r sgiliau a'r profiad a ddatblygwch drwy eich addysg a phrofiadau allgyrsiol yn cael eu gwerthfawrogi'n fawr gan gyflogwyr, ac yn hanfodol i'ch cyfraniad effeithiol yn y gweithle. Byddwch yn gallu i ddatrys problemau masnachol, diwydiannol a gwyddonol, ymchwilio a chyflwyno atebion posib yn rhesymegol a gydag eglurder, gymhwyso theori a chysyniadau i amrywiaeth o gyd-destunau.

Beth alla i ei wneud gyda’m pwnc?

Mae llawer o bosibiliadau yn agored i raddedigion, a gall gradd Mathemateg cael eu cymhwyso i ystod eang o bosibiliadau. Edrychwch ymhellach i lawr y dudalen hon i gael gwybodaeth am yr hyn y mae graddedigion Mathemateg Aber yn ei wneud.

Mae sgiliau penodol a enillwyd gan fyfyrwyr Mathemateg megis dadansoddi data, datrys problemau, rheoli prosiect, gwaith ymchwil a sgiliau ariannol, mewn alw mawr gan gyflogwyr. Mae rhai myfyrwyr a graddedigion yn penderfynu arbenigo mewn pwnc penodol trwy astudiaethau ôl-raddedig, tra bod eraill yn symud i gyflogaeth i raddedigion.

Ble ydw i’n dechrau chwilio am brofiad gwaith a swyddi i raddedigion

Bydd y rhestr o ddolenni isod yn cynnig man cychwyn dda ar gyfer chwilio am brofiad gwaith a gwaith graddedig yn ymwneud a’ch pwnc.

Cymdeithasau a chyrff proffesiynol

Beth mae graddedigion Aber yn ei wneud?

Mae llawer o fyfyrwyr Mathemateg yn symud ymlaen i swyddi megis Cyfrifyddiaeth, Ymgynghoriaeth Ariannol, Peirianneg neu Technoleg Gwybodaeth. Dyma rai enghreifftiau o swyddi a gafwyd gan ein Graddedigion:

  • Actiwari dan Hyfforddiant
  • Athro/Athrawes
  • Athro Mathemateg GTP
  • Cyfrifydd
  • Cyfrifydd Buddsoddi
  • Cyfrifydd dan Hyfforddiant
  • Cyfrifydd Siartredig dan Hyfforddiant
  • Cynorthwy-ydd Dysgu Anghenion Addysg Arbennig
  • Cynorthwy-ydd Gwe a Data
  • Cynorthwy-ydd Ymchwil
  • Dadansoddwr Cyllid dan Hyfforddiant
  • Dadansoddwr Data
  • Dadansoddwr Strategaeth Cynnyrch Defnyddwyr
  • Gweinyddwr Codi Arian
  • Gweinyddwr Llyfr Gwerthiant
  • Gweinyddwr Busnes Cynorthwyol
  • Hyfforddedig Cyllid Graddedig
  • Peiriannydd Cefnogol
  • Peiriannydd Cymwysiadau
  • Pen-cogydd
  • Rhaglennydd/Ystadegydd
  • Rheolwr Credyd
  • Rheolwr dan Hyfforddiant
  • Swyddog Cyllid
  • Technegydd Cyfrifeg

Enghreifftiau o’r cyflogwyr yr aeth graddedigion ac uwchraddedigion Mathemateg Aberystwyth i weithio iddynt:

  • Autosmart International
  • Barnett Waddingham LLP
  • Beran and Butland
  • BWCI Group
  • Cyngor Sir Conwy
  • Cynulliad Cenedlaethol Cymru
  • Friends Life
  • HSBC
  • Pencadlys Heddlu Caint
  • PricewaterhouseCoopers
  • Prifysgol Caerlŷr
  • Prospects
  • Sainsburys
  • West Mercia Energy
  • Wolseley UK