Y Gyfraith a Throseddeg
Beth fydda i’n ennill o’m pwnc?
Yn ogystal â’ch sgiliau sy’n seiliedig ar ymarfer, a’r wybodaeth y byddwch yn ei dysgu, bydd eich gradd yn darparu amrywiaeth o sgiliau trosglwyddadwy y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt. Mae’r sgiliau trosglwyddadwy yn cynnwys datrys problemau, hunan-reoli, cyfathrebu a gwaith tîm. Mae eich sgiliau trosglwyddadwy a’r lefel o gyrhaeddiad deallusol a enilloch drwy astudio eich pwnc yn golygu y bydd gennych lawer o wahanol ddewisiadau gyrfa pan fyddwch yn graddio. Mae canran uchel o’r holl swyddi gwag lefel gradd yn agored i raddedigion unrhyw ddisgyblaeth, ac eto nid yw llawer o fyfyrwyr yn ymwybodol o hyn, neu cânt eu dylanwadu gan ffeithiau di-sail ynglŷn â’r dewisiadau sydd ar gael iddynt.
Beth alla i ei wneud gyda’m pwnc?
Mae eich gradd yn eich paratoi ar gyfer amrywiaeth eang o lwybrau gyrfaol.
Mae nifer fawr o bosibiliadau’n agored i raddedigion, mwy o bosibl nag a sylweddolwch ar y cychwyn. Weithiau, y gwaith anoddaf sy’n wynebu myfyrwyr ar eu blwyddyn olaf a graddedigion newydd yw penderfynu sut i ddewis o blith y dewisiadau niferus sydd ar gael i chi. Ceir swyddi sy’n ymwneud yn uniongyrchol â phynciau gradd, swyddi lle gall pynciau penodol fod yn ddefnyddiol a hefyd ystod gyflawn o swyddi sy’n agored i raddedigion mewn unrhyw ddisgyblaeth.
Pa gymorth sydd ar gael?
Mae gennych Ymgynghorydd Gyrfaoedd penodedig sy’n gweithio’n agos â’ch adran i ddarparu cymorth, cyngor a gwybodaeth. Cynhelir gweithdai a digwyddiadau gyrfaoedd yn eich adran i hyrwyddo cyfleoedd profiad gwaith, eich helpu i gynllunio’ch gyrfa, ac sydd hefyd yn gyfle i rwydweithio gyda phobl broffesiynol sy’n gweithio yn y diwydiannau creadigol. Cyflwynir rhaglen addysg gyrfaoedd yn ganolog hefyd, a gall uwchraddedigion fanteisio ar y rhaglen Hyfforddi Sgiliau Uwchraddedig. Mae croeso i chi alw heibio’r Gwasanaeth Gyrfaoedd unrhyw bryd i gael cymorth neu wybodaeth bellach.
Ble ydw i’n dechrau chwilio am brofiad gwaith a swyddi i raddedigion? – Adnoddau defnyddiol
Mae’r dolenni isod yn fan cychwyn i chi pan fyddwch yn chwilio am gyfleoedd sy’n ymwneud yn uniongyrchol â’ch pwnc; mae mwy o adnoddau cyffredinol ar gael yn ein hadran profiad gwaith. Cofiwch fod cymorth ar gael oddi wrth y Gwasanaeth Gyrfaoedd pan fyddwch yn gwneud cais am swyddi a phrofiad gwaith.
DU
- Prospects - adran y gyfraith
- LawCareers.Net
- TARGETjobs - adran y gyfraith
- All About Law
- Lawyer Portal
- Milkround - lleoliadau gwaith yn y gyfraith
- Gweinyddiaeth Cyfiawnder
- International Bar Association - lleoliadau gwaith
- Law Works (Solicitors Pro Bono Group)
- Nacro - elusen lleihau troseddu
- Change, Grow, Live - gwirfoddoli
- Catch22 - swyddi a chyfleoedd gwirfoddoli
- Youth Justice Board - cyfleoedd gwirfoddoli
- Simply Law Jobs
- College of Policing - swyddi yn ymwneud a'r Heddlu
Tramor
- Amicus - lleoliadau gwaith
- European Court of Human Rights
- EUROPOL - lleoliadau gwaith yn yr Iseldiroedd
- FIELD (Foundation for International Environmental Law and Development) - internships
- Projects Abroad
Cymdeithasau a chyrff proffesiynol
Mae'r cyrff hyn yn hyrwyddo diddordebau pobl sy'n gweithio mewn galwedigaethau penodol. Mae gan rai ohonynt restrau o gyflogwyr sy'n aelodau o'r gymdeithas ac a allai hysbysebu swyddi tra bod eraill yn ffynonellau defnyddiol o wybodaeth wrth ymchwilio i gyflogwyr ar gyfer gwneud ceisiadau neu ystyried ceisiadau ar hap.
- Bar Council
- Bar Standards Board
- British Society of Criminology
- European Law Students' Association
- Institute of Legal Executives (ILEX)
- Institute of Paralegals
- National Association of Licensed Paralegals
- Law Society of England and Wales
- Law Society of Northern Ireland
- Law Society of Scotland
- Solicitors Regulation Authority (SRA)
Beth mae graddedigion Aber yn ei wneud?
Dyma rai enghreifftiau o swyddi a gafwyd gan ein Graddedigion:
- Adfocad Cyfreithiol
- Adfocad Meddygol Annibynnol
- Arbenigwr Pwnc Hinsawdd a Thirddaliadaeth
- Aseswr Colledion Credyd
- Bargyfreithiwr
- Clerc Bargyfreithiwr Ieuaf
- Clerc Cyfreithiol
- Cydlynydd Busnes Newydd
- Cydlynydd Dadleuwriaeth
- Cyfarwyddwr Gweithrediadau Cswmeriaid
- Cyfreithiwr
- Cyfreithiwr Cynorthwyol
- Cyfreithiwr dan Hyfforddiant
- Cyfreithiwr Ymgyfreithio dan Hyfforddiant
- Cynghorydd Cyffredinol Cyngor ar Bopeth
- Cynghorydd Materion Amgylcheddol
- Cymrawd Ymchwil
- Cynorthwy-ydd Cytundebau
- Cynorthwy-ydd Trosglwyddo
- Darlithydd
- Gweinyddwr Iechyd a Diogelwch
- Gweithiwr Cefnogi Ieuenctid
- Gweithredwr Gwerthiannau Rhanbarthol
- Heddwas
- Hyrwyddwr Amgylcheddol Gyproc
- Paragyfreithiwr
- Peiriannydd Diagnosteg
- Rheolwr Cefnogi Busnes
- Rheolwr Dadleuwriaeth
- Rheolwr Gweithgareddau
- Swyddog Cefnogi Cymuned
- Swyddog Hawliau Tramwy
- Swyddog Marchnata
- Swyddog Polisi
- Swyddog Ymchwil
- Ymchwilydd Cyfreithiol
- Ymgynghorydd Cyfraith Cyflogaeth
- Ymgynghorydd Hawliadau
- Ymgynghorydd Recriwtio
- Ysgrifennydd Cyfreithiol
Enghreifftiau o'r cyflogwyr yr aeth graddedigion ac uwchraddedigion Aberystwyth yn y gyfraitha throseddeg i weithio iddynt:
- Amiral Insurance
- Adran Gwaith a Phensiynau
- Age Concern
- Albion Financial Services
- Amryw Gwmnïoedd Cyfreithwyr
- Amryw Heddluoedd
- Amryw Sefydliadau Addysg Uwch
- Aral Jones Insurance Consultants
- Asiantaeth yr Amgylchedd
- Banc MBNA
- Beckles Investment Services
- Capita
- Cyngor Gofal Cymru
- Cyngor Sir Ceredigion
- Cyngor Sir Suffolk
- Cyngor Wiltshire
- Cynulliad Cenedlaethol Cymru
- Grŵp Dŵr Northymbria
- Gwasanaeth Cyfreithiol
- Gwasanaeth Sifil
- Gwasanaeth Erlyn y Goron
- Gweinyddiaeth Amddiffyn
- Hodgsons
- HSBC
- Prifysgol Aberystwyth
- Sainsbury's
- Senedd Ewropeaidd
- Tai Ceredigion
- Tesco
- Towergate