Astudiaethau Gwybodaeth
Beth fydda i’n ennill o’m pwnc?
Yn ogystal â’ch sgiliau sy’n seiliedig ar ymarfer, a’r wybodaeth y byddwch yn ei dysgu, bydd eich gradd yn darparu amrywiaeth o sgiliau trosglwyddadwy y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt. Mae’r sgiliau trosglwyddadwy yn cynnwys datrys problemau, hunan-reoli, cyfathrebu a gwaith tîm. Mae eich sgiliau trosglwyddadwy a’r lefel o gyrhaeddiad deallusol a enilloch drwy astudio eich pwnc yn golygu y bydd gennych lawer o wahanol ddewisiadau gyrfa pan fyddwch yn graddio. Mae canran uchel o’r holl swyddi gwag lefel gradd yn agored i raddedigion unrhyw ddisgyblaeth.
Beth alla i ei wneud gyda’m pwnc?
Mae eich gradd yn eich paratoi ar gyfer amrywiaeth eang o lwybrau gyrfaol. Ceir swyddi sy’n ymwneud yn uniongyrchol â phynciau gradd, swyddi lle gall pynciau penodol fod yn ddefnyddiol a hefyd ystod gyflawn o swyddi sy’n agored i raddedigion mewn unrhyw ddisgyblaeth.
Pa gymorth sydd ar gael?
Mae gennych Ymgynghorydd Gyrfaoedd penodedig sy’n gweithio’n agos â’ch adran i ddarparu cymorth, cyngor a gwybodaeth. Cynhelir gweithdai a digwyddiadau gyrfaoedd yn eich adran i hyrwyddo cyfleoedd profiad gwaith, eich helpu i gynllunio’ch gyrfa, ac sydd hefyd yn gyfle i rwydweithio gyda phobl broffesiynol sy’n gweithio yn y diwydiannau creadigol. Cyflwynir rhaglen addysg gyrfaoedd yn ganolog hefyd, a gall uwchraddedigion fanteisio ar y rhaglen Hyfforddi Sgiliau Uwchraddedig. Mae croeso i chi alw heibio’r Gwasanaeth Gyrfaoedd i gael cymorth neu wybodaeth bellach.
Ble ydw i’n dechrau chwilio am brofiad gwaith a swyddi i raddedigion? – Adnoddau defnyddiol
Mae’r dolenni isod yn fan cychwyn i chi pan fyddwch yn chwilio am gyfleoedd sy’n ymwneud yn uniongyrchol â’ch pwnc; mae mwy o adnoddau cyffredinol ar gael yn ein hadran profiad gwaith. Cofiwch fod cymorth ar gael oddi wrth y Gwasanaeth Gyrfaoedd pan fyddwch yn gwneud cais am swyddi a phrofiad gwaith.
DU
- National Museum Jobs - swyddi yn amgueddfeydd, orielau, llyfrgelloedd ac archifdai cenedlaethol y DU
- Information Professional Jobs
- Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru
- ARC Recruitment - bwletin recriwtio'r Archives and Records Association
- IRMS Jobs
- Jobs.ac.uk - swyddi academaidd ac ymchwil
Tramor
- Smithsonian Institution - cyfleoedd lleoliadau gwaith
Cymdeithasau a chyrff proffesiynol
Mae'r cyrff hyn yn hyrwyddo diddordebau pobl sy'n gweithio mewn galwedigaethau penodol. Mae gan rai ohonynt restrau o gyflogwyr sy'n aelodau o'r gymdeithas ac a allai hysbysebu swyddi tra bod eraill yn ffynonellau defnyddiol o wybodaeth wrth ymchwilio i gyflogwyr ar gyfer gwneud ceisiadau neu ystyried ceisiadau ar hap.
- Chartered Institute of Library and Information Professionals (CILIP)
- British and Irish Association of Law Librarians (BIALL)
- Archives and Records Association
- Information and Records Management Society
Beth mae graddedigion Aber yn ei wneud?
Dyma rai enghreifftiau o swyddi a gafwyd gan ein Graddedigion:
- Archifydd
- Catalogydd
- Cynorthwy-ydd Adnoddau
- Dadansoddwr Cofnodion
- Darlithydd
- Golygydd Intranet
- Gweinyddwr Cynnal Logisteg
- Is-Reolwr Cofnodion
- Llyfrgellydd
- Llyfrgellydd Cangen
- Llyfrgellydd Cefnogi Systemau Digidol
- Llyfrgellydd Datblygu'r Gymuned
- Llyfrgellydd Derbyniadau
- Llyfrgellydd E-Adnoddau a Chyfathrebu
- Llyfrgellydd Metadata
- Llyfrgellydd Plant
- Llyfrgellydd Pwnc
- Llyfrgellydd Ysgol
- Pennaeth Adran TG
- Rheolwr Canolfan Adnoddau Dysgu
- Rheolwr Canolfan Gwybodaeth
- Rheolwr Cofnodion
- Rheolwr Gwasanaethau Ymwelwyr
- Rheolwr Gwybodaeth
- Rheolwr Llyfrgell dros dro
- Swyddog Cyfrifon dan Hyfforddiant
- Swyddog Datblygu
- Swyddog Gweinyddol
- Swyddog Mynediad i Gasgliadau
- Swyddog Rheoli Gwybodaeth
- Ymchwilydd
Enghreifftiau o'r cyflogwyr yr aeth graddedigion ac uwchraddedigion astudiaethau gwybodaeth Aberystwyth i weithio iddynt:
- Adran Cofnodion Prydain
- Amgueddfa Brydeinig
- Amryw Awdurdodau Lleol
- Amryw Brifysgolion
- Amryw Lyfrgelloedd
- Amryw Sefydliadau Addysg Uwch
- Amryw Ysgolion
- Archifau Swydd Caer a Chaer
- Banc Canolog Malta
- BBC
- Blackwell's
- Cafcass
- Cyllid a Thollau EM
- Gweinyddiaeth Amddiffyn
- IBM
- International Baccalaureate Organization
- Linklaters
- Llyfrgell Genedlaethol Cymru
- Museums Galleries Scotland
- Swyddfa Cofnodion Dyfnaint
- Swyddog Cynorthwyo Cadwrfa
- Tŷ Opera Brenhinol
- Ymddiriedolaeth Genedlaethol