Hanes a Hanes Cymru
Beth fydda i'n ennill o'm pwnc?
Mae astudio Hanes yn rhoi cyfle i chi ddatblygu nifer o sgiliau pwysig. Mae cyflogwyr yn gwerthfawrogi’r sgiliau ymchwil, dadansoddi, gwaith tîm a chyfathrebu a ddatblygir gan fyfyrwyr hanes drwy gydol eu hastudiaethau.
Dylech hefyd feithrin y sgiliau canlynol:
- Rhesymu beirniadol, gan gynnwys y gallu i ddatrys problemau a meddwl yn greadigol
- Y gallu i lunio dadl resymegol a chyfathrebu canfyddiadau mewn modd clir ac argyhoeddiadol, ar lafar ac yn ysgrifenedig
- Y gallu i drafod syniadau mewn grwpiau ac i gyd-drafod, cwestiynu a chrynhoi
- Y gallu i feddwl yn wrthrychol ac ymdrin â phroblemau a sefyllfaoedd newydd gyda meddwl agored
- Gwerthfawrogiad o’r gwahanol ffactorau sy'n dylanwadu ar weithgareddau grwpiau ac unigolion yn y gymdeithas
Beth alla i ei wneud gyda'm pwnc?
Er bod myfyrwyr Hanes yn gweddu’n naturiol i yrfaoedd megis curaduron amgueddfa/oriel gelf neu archifo a'r byd academaidd, mae galw mawr amdanynt ymhlith llawer o’r cyflogwyr gorau. Mae graddedigion hanes yn cael eu recriwtio i amrywiaeth eang o alwedigaethau – ym meysydd busnes a chyllid, gweinyddiaeth gyhoeddus, newyddiaduraeth a darlledu, addysgu ar nifer o lefelau, neu yrfaoedd sy'n seiliedig ar ymchwil o wahanol fathau. Chwiliwch drwy’r proffiliau swydd a’r rolau hyn. Cofiwch bod llawer o gyflogwyr yn derbyn ceisiadau gan raddedigion unrhyw bwnc gradd, felly peidiwch â chyfyngu eich hun i’r swyddi a restrir yma.
Swyddi posibl (sy’n uniongyrchol berthnasol i’ch gradd):
- Rheolwr treftadaeth
- Arolygydd adeiladau hanesyddol/ swyddog cadwraeth
- Swyddog Addysg mewn amgueddfa
- Curadur amgueddfa/oriel
- Swyddog Arddangosfeydd mewn amgueddfa/oriel
- Athro Ysgol Uwchradd
Swyddi lle y byddai’ch gradd yn ddefnyddiol:
- Llyfrgellydd academaidd
- Archeolegydd
- Archifydd
- Newyddiadurwr darlledu
- Gweinyddwr yn y Gwasanaeth Sifil
- Cynorthwyydd Golygyddol
- Swyddog Gwybodaeth
- Cynorthwyydd Gwleidydd
- Cyfreithiwr
Astudiaethau pellach
Mae rhai graddedigion hanes yn mynd ymlaen i wneud astudiaethau pellach ar lefel Meistr er mwyn arbenigo mewn maes penodol o hanes a diwylliant sydd o ddiddordeb iddynt.
Serch hynny, mae llawer o gyrsiau ôl-raddedig yn derbyn graddedigion unrhyw bwnc, ac mae hyn yn caniatáu i raddedigion hanes ddewis pynciau mor amrywiol â:
- Cyfrifeg
- Newyddiaduraeth
- Y Gyfraith
- Astudiaethau Amgueddfa
- Addysgu
- Llyfrgellyddiaeth
I gael rhagor o wybodaeth am astudiaethau pellach ac i ddod o hyd i gwrs sydd o ddiddordeb i chi, gweler gradd Meistr a chwiliwch drwy’r cyrsiau ôl-raddedig.
Ble ydw i'n ddechrau chwilio am brofiad gwaith a swyddi i raddedigion?
Chwiliwch am gyfleoedd gwirfoddoli neu brofiad gwaith gyda sefydliadau a busnesau yr hoffech weithio iddynt, neu a fydd yn eich helpu i ddatblygu'r sgiliau sy'n berthnasol i'ch diddordebau gyrfaol. Er enghraifft, os hoffech gael gyrfa ym maes curadu, ceisiwch gael profiad o weithio gyda chasgliadau amgueddfeydd. Edrychwch ar yr adnoddau defnyddiol isod ar gyfer dod o hyd i brofiad gwaith a swyddi i raddedigion sy'n ymwneud â Hanes a Hanes Cymru.
Mae gwirfoddoli i weithio i sefydliad treftadaeth neu amgueddfa yn ffordd ddefnyddiol arall o gael profiad yn y sector. Manteisiwch ar unrhyw gyfle i adeiladu rhwydwaith o gysylltiadau.
Os ydych yn chwilio am yrfa mewn maes gwahanol, megis bancio neu’r gyfraith, mae interniaethau yn cynnig cyfle i gael profiad gwaith mwy strwythuredig, ac maent yn cael eu hysbysebu'n dda fel arfer, sy’n eu gwneud yn haws dod o hyd iddynt. Mae cystadlu brwd am gyfleoedd o’r fath felly ymchwiliwch y cwmnïau’n drylwyr cyn gwneud cais, a manteisiwch ar y Swyddfa Gyrfaoedd i gael cymorth ar bob cam o'r broses ymgeisio. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am brofiad gwaith ac interniaethau yma.
Hefyd cofiwch alw heibio i'r Swyddfa Gyrfaoedd yn rheolaidd gan ein bod yn cael gwybodaeth am interniaethau a chyfleoedd profiad gwaith bob wythnos.
Beth mae graddedigion Aber yn ei wneud?
Mae ein graddedigion Hanes i’w cael mewn amrywiaeth eang o swyddi a gweithleoedd, o Ymchwilwyr Gwleidyddol i Swyddogion Marchnata a Gwerthu. Mae tudalen LinkedIn Prifysgol Aberystwyth , yn lle da i weld beth mae graddedigion Aber yn mynd ymlaen i’w wneud. Mae’n cynnwys manylion 30,000+ o gyn-fyfyrwyr gan gynnwys llawer o raddedigion Hanes.
Darganfod mwy
Adnoddau defnyddiol
DU
- CADW
- English Heritage
- Historic Scotland
- Yr Archifau Gwladol
- Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol
- Ymddiriedolaeth Genedlaethol yr Alban
- Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru
- Cymdeithas yr Archifwyr – gwybodaeth am brofiad gwaith
- British Archaeological Jobs and Resources
- Cymdeithas yr Amgueddfeydd (Dod o hyd i swydd)
- Museum Jobs
- National Museum Jobs
- Amgueddfa Llundain
Cymdeithasau a chyrff proffesiynol
Mae’r cyrff hyn yn hyrwyddo buddiannau pobl sy’n gweithio mewn proffesiynau penodol. Mae rhai yn cynnwys rhestrau o gyflogwyr sy’n aelod o’r gymdeithas dan sylw, ac mae’n bosib y byddant yn hysbysebu swyddi. Gall eraill fod yn ffynhonnell wybodaeth ddefnyddiol wrth ymchwilio i gyflogwyr ar gyfer ceisiadau neu os ydych yn ystyried cyflwyno cais ar hap.
- Sefydliad yr Archeolegwyr
- Cymdeithas Tai Hanesyddol
- Y Gymdeithas Hanesyddol Frenhinol
- Sefydliad yr Amgueddfeydd
- Cymdeithas yr Amgueddfeydd Annibynnol
- Cymdeithas yr Archifwyr