Celf
Beth fydda i’n ennill o’m pwnc?
Yn ogystal â’ch sgiliau sy’n seiliedig ar ymarfer, a’r wybodaeth y byddwch yn ei dysgu, bydd eich gradd yn darparu amrywiaeth o sgiliau trosglwyddadwy y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt. Mae’r sgiliau trosglwyddadwy yn cynnwys creadigrwydd, datrys problemau, hunan-reoli, cyfathrebu a gwaith tîm. Mae eich sgiliau trosglwyddadwy a’r lefel o gyrhaeddiad deallusol a enilloch drwy astudio eich pwnc yn golygu y bydd gennych lawer o wahanol ddewisiadau gyrfa pan fyddwch yn graddio. Mae canran uchel o’r holl swyddi gwag lefel gradd yn agored i raddedigion unrhyw ddisgyblaeth, ac eto nid yw llawer o fyfyrwyr yn ymwybodol o hyn, neu cânt eu dylanwadu gan ffeithiau di-sail ynglŷn â’r dewisiadau sydd ar gael iddynt.
Gweler wefan Prospects, a hefyd ein tudalennau ble ydw i'n ddechrau a gynlluniwyd i’ch helpu i ddechrau meddwl am eich dyfodol.
Beth alla i ei wneud gyda’m pwnc?
Mae eich gradd yn eich paratoi ar gyfer amrywiaeth eang o lwybrau gyrfaol. Mae graddedigion wedi datblygu gyrfaoedd ym meysydd y celfyddydau, crefft a dylunio a thu hwnt.
Mae nifer fawr o bosibiliadau’n agored i raddedigion, mwy o bosibl nag a sylweddolwch ar y cychwyn. Weithiau, y gwaith anoddaf sy’n wynebu myfyrwyr ar eu blwyddyn olaf a graddedigion newydd yw penderfynu sut i ddewis o blith y dewisiadau niferus sydd ar gael i chi. Ceir swyddi sy’n ymwneud yn uniongyrchol â phynciau gradd, swyddi lle gall pynciau penodol fod yn ddefnyddiol a hefyd ystod gyflawn o swyddi sy’n agored i raddedigion mewn unrhyw ddisgyblaeth. Bydd y dolenni isod yn cynnig rhai syniadau i chi o ran beth y gallwch ei wneud gyda’ch pwnc.