AberPreneurs - Troi Syniadau Busnes yn Realiti
Digwyddiadau 2024
DYDDIAD CAU CYSTADLEUAETH AWST 19!
Sylwer - Os nad oes e-bost Prifysgol Aberystwyth gennych mwyach, cysylltwch â ni ar aberpreneurs@aber.ac.uk a bydd y ffurflen gais yn cael ei hanfon atoch yn uniongyrchol.
Gwneud cais yma! Ffyrflen gais InvEnterPrize
Os ydych yn fyfyriwr neu yn graddio yn 2023/4 ac os oes gennych syniad am fusnes neu fenter gymdeithasol sydd yn barod i’w gwireddu erbyn 25 Medi, yna beth am gynnig a rhoi cyfle i’ch hunan ennill £10,000 a gwobrau ariannol eraill? Fe ddaw mwy o wybodaeth yn fuan...os oes gennych unrhyw gwestiynau, ebostiwch aberpreneurs@aber.ac.uk
Er mwyn sicrhau bod gan eich syniad Busnes neu Fenter Gymdeithasol y cyfle gorau i lwyddo yn ein cystadleuaeth InvEnterPrize:
- Ceisiwch gynnwys cymaint o wybodaeth â phosibl ar y ffurflen gais...........llenwch bob adran y gallwch.
- Trefnwch apwyntiad un wrth un gydag ymgynghorydd cychwyn busnes, a fydd yn helpu i edrych drwy eich cais cyn i chi ei gyflwyno – cysylltwch ag aberpreneurs@aber.ac.uk am fanylion.
- Gwnewch yn siŵr eich bod yn esbonio eich syniad busnes yn glir ac yn ennyn cyffro a brwdfrydedd y beirniaid am eich menter newydd.
POB LWC!
Cymorth i gychwyn busnes yn ABER
Oes arnoch chi eisiau gweithio i chi'ch hun?... rydym yn helpu myfyrwyr, graddedigion a staff i ddechrau busnesau newydd:
Rydym yn darparu:
- Gwybodaeth
- Cyngor
- Hyfforddiant
- Ariannu
Cofiwch:
- Rydym yn cynnig 'Mentora Busnes' 1:1 am ddim ar-lein/wyneb yn wyneb
Darllenwch ein Hanesion am Lwyddiant yma: Dechreuadau busnesau graddedig
Edrychwch ar y 'Marchnad Myfyrwyr Cymru' - https://walesstudentmarket.co.uk/cy
Dolenni defnyddiol:
https://businesswales.gov.wales/
https://businesswales.gov.wales/bigideas/
https://developmentbank.wales/
https://developmentbank.wales/
Mae 'AberPreneurs' yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau i gefnogi menter:
- Cymorth Dechrau Busnes a Menter
- Digwyddiadau Menter
- Sgyrsiau Ysbrydoledig
- Mentwra un-i-un
- Cyngor ar Gyllid
- Rhwydweithio
Cysylltwch â ni:
Os oes gennych chi syniad busnes ac yr hoffech rhywfaint o gyngor cysylltwch â:
aberpreneurs@aber.ac.uk
01970 622378
Adroddiad Menter yn ABER 2023
Effaith Addysg Fenter ym Mhrifysgol Aberystwyth 2023 (Word)
Effaith Addysg Fenter ym Mhrifysgol Aberystwyth 2023 (PDF)
I ddarparu ein ystod llawn o wasanaethau cychwyn busnes i chi, rydym yn cadw ac yn gwneud defnydd o’ch manylion personol ar sail diddordeb cyfiawn. Gweler ein Gwybodaeth am Ddiogelu Data cyflawn yma - Gwybodaeth am Ddiogelu Data Myfyrwyr a Graddedigion ; Gwybodaeth am Ddiogelu Data Cyflogwyr/Rhyngddeiliad
Mae cymorth menter a dechrau busnes ym Mhrifysgol Aberystwyth yn cael ei gefnogi trwy Cynllun Entrepreneuriaeth Ieuenctid Lywodraeth Cymru fel rhan o ymrwymiad Lywodraeth Cymru i annog entrepreneuriaeth ymysg pobl ifanc yng Nghymru.