eFentoriaid
Mentoriaid (Alumni Aber a Phobl Broffesiynol)
- Rhannwch eich blynyddoedd o brofiad a gwybodaeth
- Cyflwynwch i fyfyrwyr a graddedigion sy’n dechrau ar eu gyrfa wybodaeth am yr hyn yr ydych wedi ei ddysgu dros y blynyddoedd i gyrraedd eich sefyllfa bresennol
- Ysbrydolwch fyfyrwyr dihyder i ddilyn amcanion eu gyrfa
- Cadwch mewn cysylltiad a chreu cymuned o raddedigion Aber sy’n cefnogi ac yn annog ei gilydd
Fel mentor, byddwch yn darparu cefnogaeth, cyngor wrth chwilio am swydd ac arweiniad o ran gyrfa i fyfyriwr presennol neu unigolyn sydd newydd raddio a fydd yn elwa o’ch profiad a’ch sgiliau unigryw. Bydd rhannu eich gwybodaeth yn cynnig profiad gwerthfawr i fentoreion, yn eich cadw mewn cysylltiad â’r syniadau a’r amgylchedd eithriadol y mae Aber yn eu cynrychioli ac yn ein helpu i chwarae rôl allweddol wrth adeiladu profiad llewyrchus, oesol.
Manteision i’r mentor
- Gwybod eich bod wedi helpu rhywun i ddatblygu ei hyder a’i hunan-werth
- Boddhad eich bod wedi rhoi i fyfyriwr neu rywun sydd newydd raddio fwy o wybodaeth, sgiliau a phrofiad i gyrraedd eu hamcanion o ran gyrfa
- Cyfle i ddatblygu sgìl newydd ar gyfer eich CV
- Cyfle i ystyried eich profiadau eich hun o safbwynt newydd a dysgu gan y rheiny sydd ar fin dechrau swydd
- Dealltwriaeth o heriau a disgwyliadau myfyrwyr sy’n dod i’r gweithle
- Mwy o synnwyr o werth a chyfraniad i ‘gronfa dalentau’ graddedigion
- Cyfle i ehangu eich rhwydweithiau a’ch cysylltiadau y tu allan i’r gweithle presennol
I gael rhagor o wybodaeth, weler ein taflenni isod neu cysylltwch gyrfaoedd@aber.ac.uk